1. Felly galwodd Isaac am Jacob a'i fendithio. Dwedodd wrtho, “Rhaid i ti beidio priodi un o ferched Canaan.
2. Dos i dŷ Bethwel dy daid yn Padan-aram. Cei briodi unrhyw un o ferched Laban, brawd dy fam.
3. Boed i'r Duw sy'n rheoli popeth dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti. Byddan nhw'n grŵp mawr o bobloedd.
4. Boed i Dduw roi bendith Abraham i ti a dy ddisgynyddion. Byddi'n cymryd drosodd y tir rwyt ti wedi bod yn byw arno fel mewnfudwr. Dyma'r tir roddodd Duw i Abraham.”
5. Felly dyma Isaac yn anfon Jacob i ffwrdd. Aeth i Padan-aram, at frawd ei fam, sef Laban (mab Bethwel yr Aramead).
6. Clywodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon i Padan-aram i ffeindio gwraig. Clywodd ei fod wedi dweud wrtho am beidio priodi un o ferched Canaan,
7. a bod Jacob wedi gwrando ar ei dad a'i fam a mynd i Padan-aram.
8. Sylweddolodd Esau fod ei dad Isaac ddim yn hoffi'r gwragedd Canaaneaidd oedd ganddo fe.