Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 27:8-25 beibl.net 2015 (BNET)

8. Felly gwna yn union fel dw i'n dweud.

9. Dewis ddau fyn gafr da i mi o'r praidd. Gwna i eu coginio a gwneud pryd blasus i dy dad – y math o fwyd mae'n ei hoffi.

10. Cei di fynd â'r bwyd i dy dad iddo ei fwyta. Wedyn bydd e'n dy fendithio di cyn iddo farw.”

11. “Ond mae Esau yn flewog i gyd,” meddai Jacob wrth ei fam. “Croen meddal sydd gen i.

12. Os gwnaiff dad gyffwrdd fi bydd yn gweld fy mod i'n ceisio ei dwyllo. Bydda i'n dod â melltith arna i fy hun yn lle bendith.”

13. Ond dyma'i fam yn dweud, “Gad i'r felltith ddod arna i. Gwna di beth dw i'n ddweud. Dos di i nôl y geifr.”

14. Felly aeth Jacob i nôl y geifr, a dod â nhw i'w fam. A dyma'i fam yn eu coginio nhw, a gwneud y math o fwyd blasus roedd Isaac yn ei hoffi.

15. Roedd dillad gorau Esau, ei mab hynaf, yn y tŷ gan Rebeca. Dyma hi'n eu cymryd nhw a gwneud i Jacob, ei mab ifancaf, eu gwisgo nhw.

16. Wedyn dyma hi'n cymryd crwyn y myn geifr a'u rhoi nhw ar ddwylo a gwddf Jacob.

17. Yna dyma hi'n rhoi'r bwyd blasus, gyda bara oedd hi wedi ei bobi, i'w mab Jacob.

18. Aeth Jacob i mewn at ei dad. “Dad,” meddai. “Ie, dyma fi,” meddai Isaac. “Pa un wyt ti?”

19. “Esau, dy fab hynaf,” meddai Jacob. “Dw i wedi gwneud beth ofynnaist ti i mi. Tyrd, eistedd i ti gael bwyta o'r helfa. Wedyn cei di fy mendithio i.”

20. Ond meddai Isaac, “Sut yn y byd wnest ti ei ddal mor sydyn?” A dyma Jacob yn ateb, “Yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth fy arwain i ato.”

21. Wedyn dyma Isaac yn dweud wrth Jacob, “Tyrd yma i mi gael dy gyffwrdd di. Dw i eisiau bod yn siŵr mai Esau wyt ti.”

22. Felly aeth Jacob at ei dad, a dyma Isaac yn gafael yn ei law. “Llais Jacob dw i'n ei glywed,” meddai, “ond dwylo Esau ydy'r rhain.”

23. (Wnaeth e ddim ei nabod am fod y dwylo'n flewog fel dwylo Esau. Dyna pam wnaeth Isaac fendithio Jacob.)

24. “Fy mab Esau wyt ti go iawn?” gofynnodd Isaac. “Ie,” meddai Jacob.

25. “Tyrd â'r helfa yma i mi gael bwyta cyn dy fendithio di,” meddai Isaac. Felly daeth Jacob â'r bwyd iddo, a dyma Isaac yn ei fwyta. Daeth â gwin iddo ei yfed hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 27