Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 27:36-46 beibl.net 2015 (BNET)

36. “Mae'r enw Jacob yn ei ffitio i'r dim!” meddai Esau. “Dyma'r ail waith iddo fy nisodli. Mae wedi cymryd fy hawliau fel y mab hynaf oddi arna i, a nawr mae e wedi dwyn fy mendith i.” Ac meddai wrth ei dad, “Wyt ti ddim wedi cadw un fendith i mi?”

37. Ond dyma Isaac yn ei ateb, “Dw i wedi ei wneud yn feistr arnat ti. Bydd ei berthnasau i gyd yn ei wasanaethu. Bydd ganddo ddigon o ŷd a sudd grawnwin i'w gynnal. Felly beth sydd ar ôl i mi ei roi i ti, fy mab?”

38. “Ai dim ond un fendith sydd gen ti, dad? Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” A dyma Esau'n dechrau crïo'n uchel.

39. Felly dyma Isaac, ei dad, yn dweud fel hyn:“Byddi di'n byw heb gael cnydau da o'r tir,a heb wlith o'r awyr.

40. Byddi di'n byw drwy ymladd â'r cleddyf,ac yn gwasanaethu dy frawd.Ond byddi di'n gwrthryfela, ac yn torri'r iau oedd wedi ei rhoi ar dy ysgwyddau.”

41. Roedd Esau yn casáu Jacob o achos y fendith roedd ei dad wedi ei rhoi iddo. “Bydd dad wedi marw cyn bo hir,” meddai'n breifat. “A dw i'n mynd i ladd Jacob wedyn.”

42. Ond daeth Rebeca i glywed am beth roedd Esau, ei mab hynaf, yn ei ddweud. Felly dyma hi'n galw am Jacob, ei mab ifancaf, ac yn dweud wrtho, “Mae dy frawd Esau yn bwriadu dial arnat ti trwy dy ladd di.

43. Felly gwna di beth dw i'n ddweud. Rhaid i ti ddianc ar unwaith at fy mrawd Laban yn Haran.

44. Aros yno gydag e am ychydig, nes bydd tymer dy frawd wedi tawelu.

45. Pan fydd e wedi anghofio beth wnest ti, gwna i anfon amdanat ti i ti gael dod yn ôl. Pam ddylwn i golli'r ddau ohonoch chi'r un diwrnod?”

46. Aeth Rebeca at Isaac a dweud wrtho, “Mae'r merched yma o blith yr Hethiaid yn gwneud bywyd yn annioddefol! Os bydd Jacob yn gwneud yr un peth ag Esau ac yn priodi un o'r merched lleol yma, fydd bywyd ddim yn werth ei fyw!”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 27