Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 26:16-28 beibl.net 2015 (BNET)

16. A dyma Abimelech yn dweud wrth Isaac, “Ti'n llawer cryfach na ni bellach, felly rhaid i ti adael ein gwlad ni.”

17. Felly dyma Isaac yn mynd ac yn gwersylla wrth Wadi Gerar.

18. Roedd Isaac wedi ailagor y pydewau dŵr gafodd eu cloddio pan oedd Abraham yn fyw (Y rhai roedd y Philistiaid wedi eu llenwi ar ôl i Abraham farw.) Ac roedd Isaac wedi eu galw nhw wrth yr enwau roddodd ei dad iddyn nhw'n wreiddiol.

19. Ond pan aeth gweision Isaac ati i gloddio pydewau wrth y wadi, dyma nhw'n darganfod ffynnon lle roedd dŵr glân yn llifo drwy'r adeg.

20. Yna dechreuodd bugeiliaid Gerar ddadlau gyda gweision Isaac. “Ni piau'r dŵr,” medden nhw. Felly galwodd Isaac y ffynnon yn Esec, am eu bod nhw wedi ffraeo gydag e.

21. Wedyn dyma nhw'n cloddio pydew arall, ac roedd dadlau am hwnnw hefyd. Felly galwodd Isaac hwnnw yn Sitna

22. Symudodd yn ei flaen a chloddio pydew arall, ond wnaethon nhw ddim dadlau am hwnnw. Felly galwodd y pydew hwnnw yn Rehoboth. “Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi digon o le i ni, a byddwn yn llwyddo yn y wlad,” meddai.

23. Aeth Isaac yn ei flaen o'r fan honno i Beersheba.

24. Y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddo. Dwedodd wrtho, “Fi ydy Duw Abraham dy dad. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Bydda i'n dy fendithio di ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion i ti o achos Abraham fy ngwas.”

25. Felly dyma fe'n codi allor yno ac addoli'r ARGLWYDD. Gwersyllodd yno am gyfnod, a dyma gweision Isaac yn cloddio pydew yno hefyd.

26. Dyma Abimelech yn dod ato o Gerar, gydag Achwsath ei gynghorwr a Pichol pennaeth ei fyddin.

27. Gofynnodd Isaac iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi dod yma? Dych chi'n fy nghasáu i, ac wedi fy anfon i ffwrdd oddi wrthych.”

28. Dyma nhw'n ateb, “Mae'n hollol amlwg i ni fod yr ARGLWYDD gyda ti. Felly dŷn ni eisiau gwneud cytundeb hefo ti.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 26