Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 26:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd newyn yn y wlad (newyn gwahanol i'r newyn ddigwyddodd pan oedd Abraham yn fyw.) A dyma Isaac yn mynd at Abimelech, brenin y Philistiaid, yn Gerar.

2. Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Isaac a dweud wrtho, “Paid mynd i lawr i'r Aifft. Dos i'r wlad fydda i'n ei dangos i ti.

3. Aros yn y wlad honno. Bydda i gyda ti ac yn dy fendithio di. Dw i'n mynd i roi'r tiroedd yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion. Dw i'n mynd i wneud beth wnes i ei addo i dy dad Abraham.

4. Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion ag sydd o sêr yn yr awyr. Dw i'n mynd i roi'r tiroedd yma i gyd i dy ddisgynyddion di. Trwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio.

5. Bydd hyn i gyd yn digwydd am fod Abraham wedi gwneud beth ddywedais i. Roedd yn dilyn y cyfarwyddiadau, ac yn cadw'r gorchmynion, yr arweiniad a'r ddysgeidiaeth rois i iddo.”

6. Felly dyma Isaac yn mynd i fyw i Gerar.

7. Roedd y dynion yno yn dangos diddordeb yn ei wraig. Felly dwedodd Isaac, “Fy chwaer i ydy hi.” (Roedd arno ofn dweud mai ei wraig oedd hi, rhag i'r dynion ei ladd er mwyn cael Rebeca. Roedd hi'n wraig hardd iawn.)

8. Pan oedd Isaac wedi bod yn byw yno am amser hir, digwyddodd Abimelech, brenin y Philistiaid, edrych allan o'r ffenest a gweld Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca.

9. Dyma Abimelech yn gofyn i Isaac fynd i'w weld, a dwedodd wrtho, “Felly, dy wraig di ydy hi go iawn! Pam wnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi’?” Atebodd Isaac, “Roedd gen i ofn i rywun fy lladd i er mwyn ei chael hi.”

10. “Beth yn y byd ti'n meddwl rwyt ti'n wneud?” meddai Abimelech. “Beth petai un o'r dynion wedi cysgu hefo hi? Byddet ti wedi'n gwneud ni i gyd yn euog.”

11. Felly dyma Abimelech yn rhoi gorchymyn i'w bobl, “Os bydd unrhyw un yn cyffwrdd â'r dyn yma neu ei wraig, y gosb fydd marwolaeth.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 26