Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 25:12-26 beibl.net 2015 (BNET)

12. Dyma hanes teulu Ishmael, y mab gafodd Abraham gan Hagar, morwyn Eifftaidd Sara:

13. Dyma enwau meibion Ishmael, mewn trefn (o'r hynaf i'r ifancaf):Nebaioth oedd ei fab hynaf, wedyn Cedar, Adbeël, Mifsam,

14. Mishma, Dwma, Massa,

15. Hadad, Tema, Ietwr, Naffish a Cedema.

16. Y rhain oedd meibion Ishmael, a chafodd y pentrefi ble roedden nhw'n byw eu henwi ar eu holau. Roedd y deuddeg ohonyn nhw yn benaethiaid ar eu llwythau.

17. Roedd Ishmael yn 137 oed pan fuodd farw a mynd at ei hynafiaid.

18. Roedd ei ddisgynyddion yn byw yn yr ardal rhwng Hafila a Shwr, sy'n ffinio â'r Aifft i gyfeiriad Ashŵr. Roedd Ishmael yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun.

19. Dyma hanes teulu Isaac, mab Abraham:Abraham oedd tad Isaac.

20. Roedd Isaac yn 40 oed pan briododd Rebeca (sef merch Bethwel yr Aramead o Padan-aram, a chwaer Laban yr Aramead.)

21. Roedd Rebeca'n methu cael plant, felly dyma Isaac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD drosti, a dyma hi'n beichiogi.

22. Roedd hi'n disgwyl gefeilliaid, ac roedden nhw'n gwthio ac yn taro ei gilydd yn ei chroth. “Pam mae hyn yn digwydd i mi?” gofynnodd. A dyma hi'n mynd i ofyn i'r ARGLWYDD.

23. A dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrthi:“Bydd dwy wlad yn dod o'r bechgyn yn dy groth.Dau grŵp o bobl fydd yn erbyn ei gilydd.Bydd un yn gryfach na'r llall,a bydd y mab hynaf yn was i'r ifancaf.”

24. Dyma'r amser yn dod i'r gefeilliaid gael eu geni.

25. Daeth y cyntaf allan o'r groth yn gochlyd i gyd ac yn flewog fel dilledyn, felly dyma nhw'n ei alw yn Esau.

26. Wedyn daeth y llall yn cydio'n dynn yn sawdl Esau, felly dyma nhw'n ei alw'n Jacob. Roedd Isaac yn 60 oed pan gawson nhw eu geni.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 25