Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 24:48-67 beibl.net 2015 (BNET)

48. Wedyn dyma fi'n plygu i addoli'r ARGLWYDD. Roeddwn i'n moli'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am ei fod wedi fy arwain i at wyres ei frawd.

49. Dyna ddigwyddodd, felly beth amdani? Ydych chi'n mynd i fod yn garedig at fy meistr neu ddim? Dwedwch wrtho i, er mwyn i mi wybod beth i'w wneud nesa.”

50. Dyma Laban a Bethwel yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD tu ôl i hyn i gyd. Does dim byd allwn ni ei ddweud.

51. Dyma Rebeca; dos â hi gyda ti. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ddigon clir mai hi sydd i fod yn wraig i fab dy feistr.”

52. Pan glywodd gwas Abraham hyn, ymgrymodd yn isel o flaen yr ARGLWYDD.

53. Wedyn dyma fe'n estyn tlysau arian ac aur, a dillad, a'u rhoi i Rebeca. Rhoddodd anrhegion drud i'w brawd a'i mam hefyd.

54. Ar ôl gwneud hynny dyma'r gwas a'r dynion oedd gydag e yn bwyta'r pryd bwyd, ac yn yfed, ac yn aros yno dros nos.Ar ôl iddyn nhw godi y bore wedyn, dyma'r gwas yn dweud, “Gadewch i mi fynd yn ôl at fy meistr nawr.”

55. Ond dyma frawd a mam Rebeca'n ei ateb, “Gad i'r ferch aros gyda ni am ryw wythnos i ddeg diwrnod. Caiff fynd wedyn.”

56. Ond meddai'r gwas wrthyn nhw, “Peidiwch fy nal i nôl. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi taith lwyddiannus i mi. Gadewch i mi fynd yn ôl at fy meistr.”

57. “Beth am ei galw hi a gofyn beth mae hi'n feddwl?” medden nhw.

58. A dyma nhw'n galw Rebeca a gofyn iddi, “Wyt ti'n barod i fynd gyda'r dyn yma?” A dyma hi'n ateb, “Ydw.”

59. Felly dyma nhw'n ei hanfon hi i ffwrdd gyda'r forwyn oedd wedi ei magu hi, a gwas Abraham a'r dynion oedd gydag e.

60. Dyma nhw'n bendithio Rebeca a dweud wrthi,“Boed i ti, ein chwaer, fod yn fam i filiynau!Boed i dy ddisgynyddion di orchfygu eu gelynion i gyd.”

61. Felly i ffwrdd â Rebeca a'i morynion ar gefn y camelod gyda gwas Abraham.

62. Roedd Isaac wedi bod yn Beër-lachai-roi. Roedd yn byw yn ardal y Negef yn y de.

63. Aeth allan am dro gyda'r nos, a gwelodd gamelod yn dod i'w gyfeiriad.

64. Gwelodd Rebeca Isaac hefyd. Daeth i lawr o'i chamel

65. a gofyn i was Abraham, “Pwy ydy'r dyn acw sy'n dod i'n cyfeiriad ni?” Ac meddai'r gwas, “Fy meistr i ydy e.” Felly dyma Rebeca yn rhoi fêl dros ei hwyneb.

66. Dwedodd y gwas wrth Isaac am bopeth oedd wedi digwydd.

67. Ac aeth Isaac â Rebeca i mewn i babell ei fam Sara, a'i chymryd hi'n wraig iddo'i hun. Roedd e'n ei charu hi'n fawr, ac roedd yn hapus eto ar ôl colli ei fam.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 24