Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 24:26-44 beibl.net 2015 (BNET)

26. Dyma'r gwas yn plygu i lawr ac yn addoli'r ARGLWYDD.

27. “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Abraham, fy meistr! Mae wedi bod yn gwbl ffyddlon i'w addewid. Mae'r ARGLWYDD wedi fy arwain i gartref teulu fy meistr!”

28. Rhedodd y ferch ifanc adre at ei mam, a dweud wrthi hi a phawb arall oedd yno am beth oedd wedi digwydd.

29. Roedd gan Rebeca frawd o'r enw Laban, a dyma Laban yn brysio allan i gyfarfod y dyn wrth y pydew.

30. Ar ôl gweld y fodrwy drwyn a'r breichledau roedd ei chwaer Rebeca'n eu gwisgo, a chlywed beth roedd y dyn wedi ei ddweud wrthi, aeth allan ato ar unwaith. A dyna ble roedd e, yn sefyll gyda'r camelod wrth y pydew.

31. Aeth ato a dweud, “Tyrd, ti sydd wedi dy fendithio gan yr ARGLWYDD. Pam ti'n sefyll allan yma? Mae gen i le yn barod i ti yn y tŷ, ac mae lle i'r camelod hefyd.”

32. Felly dyma gwas Abraham yn mynd i'r tŷ. Cafodd y camelod eu dadlwytho, a dyma wellt a bwyd yn cael ei roi iddyn nhw. Cafodd y gwas a'r dynion oedd gydag e ddŵr i olchi eu traed.

33. Wedyn dyma fwyd yn cael ei baratoi iddyn nhw. Ond meddai'r gwas, “Dw i ddim am fwyta nes i mi ddweud pam dw i wedi dod yma.” “Iawn,” meddai Laban, “dywed wrthon ni.”

34. “Gwas Abraham ydw i,” meddai.

35. “Mae'r ARGLWYDD wedi bendithio fy meistr yn fawr. Mae'n ddyn cyfoethog iawn. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi defaid a gwartheg iddo, arian ac aur, gweision a morynion, camelod ac asynnod.

36. Cafodd Sara, gwraig fy meistr, fab iddo pan oedd hi'n hen iawn. Mae fy meistr wedi rhoi popeth sydd ganddo i'w fab.

37. Gwnaeth fy meistr i mi fynd ar fy llw, a dwedodd wrtho i, ‘Dwyt ti ddim i gymryd un o ferched y Canaaneaid, o'r wlad ble dw i'n byw, i fod yn wraig i'm mab i.

38. Dw i am i ti fynd yn ôl i gartre fy nhad, at fy mherthnasau, i chwilio am wraig i'm mab i.’

39. Dywedais wrth fy meistr ‘Beth os bydd y ferch yn gwrthod dod gyda mi?’

40. Ond ei ateb oedd, ‘Bydd yr ARGLWYDD dw i'n ei wasanaethu yn anfon ei angel gyda ti, ac yn gwneud yn siŵr dy fod yn cael taith lwyddiannus. Dw i eisiau i ti ffeindio gwraig i'm mab o blith fy mherthnasau, o gartre fy nhad.

41. Os ei di at fy mherthnasau a hwythau'n gwrthod ei rhoi hi i ti, fydda i ddim yn dy ddal di yn gyfrifol. Byddi di'n rhydd o bob cyfrifoldeb.’

42. “Pan gyrhaeddais i'r pydew heddiw, dyma fi'n gweddïo. ‘O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, os wyt ti wir eisiau i mi fod yn llwyddiannus ar y daith yma, gad i hyn ddigwydd:

43. Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma. Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc sy'n dod i godi dŵr, “Ga i ychydig ddŵr i'w yfed gen ti?”

44. Os bydd hi'n ateb, “Cei, wrth gwrs. Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd,” – hi fydd y ferch mae'r ARGLWYDD wedi ei dewis i fod yn wraig i fab fy meistr.’

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 24