Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 24:12-21 beibl.net 2015 (BNET)

12. Dyma'r gwas yn gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, arwain fi heddiw. Cadw dy addewid i'm meistr i.

13. Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma, ac mae merched y dre yn dod allan i godi dŵr.

14. Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc, ‘Wnei di godi dŵr i mi gael yfed?’ Gad i'r un rwyt ti wedi ei dewis i fod yn wraig i dy was Isaac ddweud, ‘Gwnaf wrth gwrs! Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Bydda i'n gwybod wedyn dy fod ti wedi cadw dy addewid i'm meistr.”

15. Cyn iddo orffen gweddïo roedd Rebeca wedi cyrraedd yno yn cario jwg dŵr ar ei hysgwydd. Roedd Rebeca'n ferch i Bethwel (oedd yn fab i Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham).

16. Roedd hi'n ferch arbennig o hardd, yn ei harddegau, a doedd hi erioed wedi cael rhyw. Aeth i lawr at y pydew, llenwi ei jwg, a dod yn ôl i fyny.

17. Yna dyma'r gwas yn brysio draw ati a gofyn iddi, “Ga i ychydig o ddŵr i'w yfed gen ti?”

18. “Wrth gwrs, syr,” meddai. A dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd ac yn rhoi diod iddo.

19. Ar ôl gwneud hynny, dyma hi'n dweud, “Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd, nes byddan nhw wedi cael digon i'w yfed.”

20. Felly dyma hi'n gwagio'r dŵr oedd ganddi yn ei jwg i'r cafn anifeiliaid, a mynd yn ôl at y pydew i godi mwy o ddŵr. A gwnaeth hynny nes oedd hi wedi codi digon o ddŵr i'r camelod i gyd.

21. Ddwedodd y gwas ddim byd. Roedd yn sefyll yno yn syllu arni, i weld os oedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud yn llwyddiannus ai peidio.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 24