Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 24:10-26 beibl.net 2015 (BNET)

10. Cymerodd y gwas ddeg o gamelod ei feistr wedi eu llwytho â phob math o anrhegion, ac aeth i ffwrdd i dref Nachor yng Ngogledd Mesopotamia

11. Gwnaeth i'r camelod orwedd wrth y pydew dŵr oedd tu allan i'r dre. (Roedd hi'n hwyr yn y p'nawn, sef yr amser y byddai'r merched yn mynd allan i godi dŵr.)

12. Dyma'r gwas yn gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, arwain fi heddiw. Cadw dy addewid i'm meistr i.

13. Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma, ac mae merched y dre yn dod allan i godi dŵr.

14. Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc, ‘Wnei di godi dŵr i mi gael yfed?’ Gad i'r un rwyt ti wedi ei dewis i fod yn wraig i dy was Isaac ddweud, ‘Gwnaf wrth gwrs! Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Bydda i'n gwybod wedyn dy fod ti wedi cadw dy addewid i'm meistr.”

15. Cyn iddo orffen gweddïo roedd Rebeca wedi cyrraedd yno yn cario jwg dŵr ar ei hysgwydd. Roedd Rebeca'n ferch i Bethwel (oedd yn fab i Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham).

16. Roedd hi'n ferch arbennig o hardd, yn ei harddegau, a doedd hi erioed wedi cael rhyw. Aeth i lawr at y pydew, llenwi ei jwg, a dod yn ôl i fyny.

17. Yna dyma'r gwas yn brysio draw ati a gofyn iddi, “Ga i ychydig o ddŵr i'w yfed gen ti?”

18. “Wrth gwrs, syr,” meddai. A dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd ac yn rhoi diod iddo.

19. Ar ôl gwneud hynny, dyma hi'n dweud, “Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd, nes byddan nhw wedi cael digon i'w yfed.”

20. Felly dyma hi'n gwagio'r dŵr oedd ganddi yn ei jwg i'r cafn anifeiliaid, a mynd yn ôl at y pydew i godi mwy o ddŵr. A gwnaeth hynny nes oedd hi wedi codi digon o ddŵr i'r camelod i gyd.

21. Ddwedodd y gwas ddim byd. Roedd yn sefyll yno yn syllu arni, i weld os oedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud yn llwyddiannus ai peidio.

22. Pan oedd y camelod wedi gorffen yfed, dyma'r gwas yn rhoi modrwy drwyn werthfawr i'r ferch ifanc, a dwy freichled aur gostus hefyd.

23. Gofynnodd iddi, “Merch pwy wyt ti? Fyddai gan dy dad le i ni aros dros nos?”

24. Atebodd hithau, “Dw i'n ferch i Bethwel, mab Milca a Nachor.

25. Mae gynnon ni ddigon o wellt a bwyd i'r camelod, a lle i chithau aros dros nos.”

26. Dyma'r gwas yn plygu i lawr ac yn addoli'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 24