Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 23:1-2-13 beibl.net 2015 (BNET)

1-2. Bu farw Sara yn 127 oed, yn Ciriath-arba (sef Hebron), yn Canaan. A buodd Abraham yn galaru ac yn wylo drosti.

3. Yna dyma Abraham yn codi a mynd i siarad gyda disgynyddion Heth,

4. “Mewnfudwr ydw i, yn byw dros dro yn eich plith chi. Wnewch chi werthu darn o dir i mi i gladdu fy ngwraig?”

5. A dyma ddisgynyddion Heth yn ateb,

6. “Wrth gwrs syr. Rwyt ti fel tywysog pwysig yn ein golwg ni. Dewis y bedd gorau sydd gynnon ni i gladdu dy wraig ynddo. Byddai'n fraint gan unrhyw un ohonon ni i roi ei fedd i ti gladdu dy wraig.”

7. Dyma Abraham yn codi ar ei draed ac yn ymgrymu o flaen y bobl leol, sef disgynyddion Heth.

8. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Os ydych chi'n hapus i mi gladdu fy ngwraig yma, wnewch chi berswadio Effron fab Sochar

9. i werthu'r ogof yn Machpela i mi. Mae'r ogof ar ei dir e, reit ar y ffin. Gwna i dalu'r pris llawn iddo amdani yma o'ch blaen chi, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.”

10. Roedd Effron yn eistedd yno ar y pryd, ac meddai wrth Abraham o flaen pawb oedd yno wrth giât y ddinas,

11. “Na, gwrandwch syr. Dw i'n fodlon gwerthu'r darn hwnnw o dir i gyd i chi, a'r ogof sydd arno. Dw i'n dweud hyn o flaen fy mhobl yma. Dw i'n hapus i chi ei gymryd i gladdu eich gwraig.”

12. A dyma Abraham yn ymgrymu eto o flaen y bobl leol.

13. “Iawn,” meddai wrth Effron o flaen pawb, “dw i'n cytuno. Dw i'n fodlon talu am y darn tir hefyd. Cei faint bynnag rwyt ti eisiau amdano, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 23