Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 23:13-20 beibl.net 2015 (BNET)

13. “Iawn,” meddai wrth Effron o flaen pawb, “dw i'n cytuno. Dw i'n fodlon talu am y darn tir hefyd. Cei faint bynnag rwyt ti eisiau amdano, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.”

14. Dyma Effron yn ateb,

15. “Syr. Beth am 400 sicl o arian? Dydy hynny'n ddim byd i ddynion fel ti a fi. Wedyn cei gladdu dy wraig.”

16. Felly dyma Abraham yn cytuno i'w dalu. A dyma Abraham yn pwyso'r swm o arian oedd wedi ei gytuno o flaen tystion, a'i roi i Effron, sef 400 darn o arian yn ôl mesur safonol y cyfnod.

17. Felly prynodd Abraham y tir gan Effron. Roedd yn Machpela, i'r dwyrain o Mamre. Cafodd yr ogof oedd arno a'r coed oedd o fewn ei ffiniau.

18. Roedd disgynyddion Heth a phawb arall oedd wrth giât y ddinas, yn dystion i'r cytundeb.

19. Ar ôl prynu'r tir dyma Abraham yn claddu Sara ei wraig yn yr ogof oedd yno, yn Machpela ger Mamre (sef Hebron) yng ngwlad Canaan.

20. Cafodd y tir a'r ogof oedd arno eu gwerthu i Abraham gan ddisgynyddion Heth, iddo gladdu ei deulu yno.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 23