Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 20:8-18 beibl.net 2015 (BNET)

8. Felly yn gynnar y bore wedyn dyma Abimelech yn galw ei swyddogion i gyd. Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, ac roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.

9. Wedyn dyma Abimelech yn galw am Abraham a dweud wrtho, “Pam rwyt ti wedi gwneud hyn i ni? Ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le i ti? Pam rwyt ti wedi achosi i mi a'm pobl bechu mor ofnadwy? Ddylai neb fy nhrin i fel yma.”

10. A gofynnodd i Abraham, “Beth roeddet ti'n feddwl roeddet ti'n ei wneud?”

11. A dyma Abraham yn ateb, “Doeddwn i ddim yn meddwl fod unrhyw un yn addoli Duw yma. Roeddwn i'n meddwl y byddech chi'n siŵr o'm lladd i er mwyn cael fy ngwraig.

12. A beth bynnag, mae'n berffaith wir ei bod hi'n chwaer i mi. Mae gynnon ni'r un tad, ond dim yr un fam. Ond dyma fi'n ei phriodi hi.

13. Pan wnaeth Duw i mi adael cartref fy nhad, dywedais wrthi, ‘Dw i am i ti addo gwneud rhywbeth i mi. Ble bynnag awn ni, dywed wrth bobl ein bod ni'n frawd a chwaer.’”

14. Wedyn dyma Abimelech yn rhoi defaid ac ychen, caethweision a chaethferched i Abraham. A rhoddodd ei wraig Sara yn ôl iddo hefyd.

15. Wedyn dwedodd wrtho, “Cei fyw ble bynnag rwyt ti eisiau yn fy ngwlad i.”

16. A dwedodd wrth Sara, “Dw i'n rhoi mil o ddarnau arian i dy ‛frawd‛ di. Dw i'n ei roi yn iawndal am bopeth sydd wedi digwydd i ti. Bydd pawb yn gweld wedyn dy fod ti heb wneud dim byd o'i le.”

17. Yna dyma Abraham yn gweddïo ar Dduw, a dyma Duw yn iacháu Abimelech, a'i wraig a'r merched eraill yn ei harîm, fel eu bod nhw'n gallu cael plant eto.

18. (Roedd yr ARGLWYDD wedi stopio'r merched i gyd rhag cael plant, am fod Abimelech wedi cymryd Sara, gwraig Abraham.)

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 20