Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 20:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Symudodd Abraham i'r de i gyfeiriad y Negef, a buodd yn byw rhwng Cadesh a Shwr. Pan oedd yn symud o gwmpas ardal Gerar

2. dwedodd wrth bobl mai ei chwaer oedd Sara, ei wraig. A dyma Abimelech, brenin Gerar, yn anfon amdani i'w chymryd iddo ei hun.

3. Ond dyma Duw yn siarad gydag Abimelech mewn breuddwyd un noson, a dweud wrtho, “Ti'n mynd i farw am gymryd y wraig yma, achos mae hi'n wraig briod.”

4. Ar y pryd doedd Abimelech ddim wedi cysgu gyda hi, ac felly dwedodd, “Meistr, fyddet ti'n dinistrio pobl sy'n ddieuog?

5. Roedd Abraham wedi dweud mai ei chwaer e oedd hi. Ac roedd hithau'n dweud mai ei brawd hi oedd Abraham. Ro'n i'n gweithredu'n gwbl ddiniwed.”

6. A dyma Duw yn ei ateb, “Ie, dw i'n gwybod dy fod ti'n ddiniwed. Fi gadwodd di rhag pechu yn fy erbyn i. Wnes i ddim gadael i ti ei chyffwrdd hi.

7. Felly, rho'r wraig yn ôl i'w gŵr. Mae e'n broffwyd. Bydd e'n gweddïo drosot ti, a chei di fyw. Ond os nad wyt ti'n fodlon mynd â hi yn ôl, rhaid i ti ddeall y byddi di a dy bobl yn marw.”

8. Felly yn gynnar y bore wedyn dyma Abimelech yn galw ei swyddogion i gyd. Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, ac roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 20