1. Symudodd Abraham i'r de i gyfeiriad y Negef, a buodd yn byw rhwng Cadesh a Shwr. Pan oedd yn symud o gwmpas ardal Gerar
2. dwedodd wrth bobl mai ei chwaer oedd Sara, ei wraig. A dyma Abimelech, brenin Gerar, yn anfon amdani i'w chymryd iddo ei hun.
3. Ond dyma Duw yn siarad gydag Abimelech mewn breuddwyd un noson, a dweud wrtho, “Ti'n mynd i farw am gymryd y wraig yma, achos mae hi'n wraig briod.”
4. Ar y pryd doedd Abimelech ddim wedi cysgu gyda hi, ac felly dwedodd, “Meistr, fyddet ti'n dinistrio pobl sy'n ddieuog?
5. Roedd Abraham wedi dweud mai ei chwaer e oedd hi. Ac roedd hithau'n dweud mai ei brawd hi oedd Abraham. Ro'n i'n gweithredu'n gwbl ddiniwed.”