Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 19:3-16 beibl.net 2015 (BNET)

3. Ond dyma Lot yn dal ati i bwyso arnyn nhw, ac yn y diwedd aethon nhw gydag e i'w dŷ. Gwnaeth wledd iddyn nhw, gyda bara ffres oedd wedi ei wneud heb furum, a dyma nhw'n bwyta.

4. Cyn iddyn nhw setlo i lawr i gysgu, dyma ddynion Sodom i gyd yn cyrraedd yno ac amgylchynu'r tŷ – dynion hen ac ifanc o bob rhan o'r ddinas.

5. A dyma nhw'n galw ar Lot, “Ble mae'r dynion sydd wedi dod atat ti heno? Tyrd â nhw allan yma i ni gael rhyw gyda nhw.”

6. Ond dyma Lot yn mynd allan at y dynion, ac yn cau'r drws tu ôl iddo.

7. “Dw i'n pledio arnoch chi, ffrindiau, plîs peidiwch gwneud peth mor ddrwg.

8. Edrychwch, mae gen i ddwy ferch sydd erioed wedi cysgu hefo dyn. Beth am i mi ddod â nhw allan atoch chi. Cewch wneud beth dych chi eisiau iddyn nhw. Ond peidiwch gwneud dim i'r dynion yma – maen nhw'n westeion yn fy nghartre i.”

9. Ond dyma'r dynion yn ei ateb, “Dos o'r ffordd! Un o'r tu allan wyt ti beth bynnag. Pwy wyt ti i'n barnu ni? Cei di hi'n waeth na nhw gynnon ni!” Dyma nhw'n gwthio yn erbyn Lot, nes bron torri'r drws i lawr.

10. Ond dyma'r dynion yn y tŷ yn llwyddo i afael yn Lot a'i dynnu yn ôl i mewn a chau y drws.

11. A dyma nhw'n gwneud i'r dynion oedd y tu allan gael eu taro'n ddall – pob un ohonyn nhw, o'r ifancaf i'r hynaf. Roedden nhw'n methu dod o hyd i'r drws.

12. Gofynnodd y dynion i Lot, “Oes gen ti berthnasau eraill yma? – meibion neu ferched, meibion yng nghyfraith neu unrhyw un arall? Dos i'w nôl nhw a gadael y lle yma,

13. achos dŷn ni'n mynd i ddinistrio'r ddinas. Mae pobl wedi bod yn cwyno'n ofnadwy am y lle, ac mae'r ARGLWYDD wedi ein hanfon ni i'w ddinistrio.”

14. Felly dyma Lot yn mynd i siarad â'r dynion oedd i fod i briodi ei ferched. “Codwch!” meddai, “Rhaid i ni adael y lle yma. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio'r ddinas.” Ond roedden nhw yn meddwl mai cael sbort oedd e.

15. Ben bore wedyn gyda'r wawr dyma'r angylion yn dweud wrth Lot am frysio, “Tyrd yn dy flaen. Dos â dy wraig a'r ddwy ferch sydd gen ti, neu byddwch chithau'n cael eich lladd pan fydd y ddinas yn cael ei dinistrio!”

16. Ond roedd yn llusgo'i draed, felly dyma'r dynion yn gafael yn Lot a'i wraig a'i ferched, a mynd â nhw allan o'r ddinas. Roedd yr ARGLWYDD mor drugarog ato.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 19