Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 19:29-38 beibl.net 2015 (BNET)

29. Ond pan ddinistriodd Duw drefi'r dyffryn, roedd wedi cofio beth oedd wedi ei addo i Abraham. Roedd wedi achub Lot o ganol y dinistr.

30. Roedd gan Lot ofn aros yn Soar, felly aeth i'r bryniau i fyw. Roedd yn byw yno gyda'i ddwy ferch mewn ogof.

31. Dwedodd y ferch hynaf wrth yr ifancaf, “Mae dad yn mynd yn hen, a does yna run dyn yn agos i'r lle yma i roi plant i ni.

32. Tyrd, gad i ni wneud i dad feddwi ar win, a chysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.”

33. Felly'r noson honno dyma nhw'n rhoi gwin i'w tad a gwneud iddo feddwi. A dyma'r hynaf yn mynd at ei thad a chael rhyw gydag e. Ond roedd yn rhy feddw i wybod dim am y peth.

34. Y bore wedyn dyma'r hynaf yn dweud wrth yr ifancaf, “Gwnes i gysgu gyda dad neithiwr. Gad i ni roi gwin iddo eto heno, a chei di gysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.”

35. Felly dyma nhw'n gwneud i'w tad feddwi y noson honno eto. A dyma'r ifancaf yn mynd at ei thad ac yn cael rhyw gydag e. Ond eto, roedd Lot yn rhy feddw i wybod dim am y peth.

36. A dyna sut y cafodd y ddwy ferch blant o'u tad.

37. Cafodd y ferch hynaf fab a'i alw yn Moab. Ohono fe y daeth y Moabiaid.

38. Cafodd yr ifancaf fab hefyd, a'i alw yn Ben-ammi. Ac ohono fe y daeth yr Ammoniaid.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 19