Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 19:17-30 beibl.net 2015 (BNET)

17. Ar ôl mynd â nhw allan dyma un o'r angylion yn dweud wrthyn nhw, “Rhedwch am eich bywydau. Peidiwch edrych yn ôl, a peidiwch stopio nes byddwch chi allan o'r dyffryn yma. Rhedwch i'r bryniau, neu byddwch chi'n cael eich lladd.”

18. Ond dyma Lot yn ateb, “O na, plîs, syr.

19. Rwyt ti wedi bod mor garedig, ac wedi achub fy mywyd i. Ond mae'r bryniau acw'n rhy bell. Alla i byth gyrraedd mewn pryd. Bydd y dinistr yn fy nal i a bydda i'n marw cyn cyrraedd.

20. Edrych, mae'r dre fach acw'n ddigon agos. Gad i mi ddianc yno. Mae'n lle bach, a bydda i'n cael byw.”

21. “Iawn,” meddai'r angel, “wna i ddim dinistrio'r dref yna.

22. Brysia felly. Dianc yno. Alla i wneud dim byd nes byddi di wedi cyrraedd yno.” A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Soar.

23. Erbyn i Lot gyrraedd Soar roedd hi wedi dyddio.

24. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i dân a brwmstan syrthio o'r awyr ar Sodom a Gomorra.

25. Cafodd y ddwy dref eu dinistrio'n llwyr, a phawb a phopeth yn y dyffryn, hyd yn oed y planhigion.

26. A dyma wraig Lot yn edrych yn ôl a syllu ar beth oedd yn digwydd, a cafodd ei throi yn golofn o halen.

27. Yn gynnar y bore wedyn aeth Abraham i'r man lle buodd e'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.

28. Edrychodd i lawr ar y dyffryn ac i gyfeiriad Sodom a Gomorra a gweld y mwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrnais.

29. Ond pan ddinistriodd Duw drefi'r dyffryn, roedd wedi cofio beth oedd wedi ei addo i Abraham. Roedd wedi achub Lot o ganol y dinistr.

30. Roedd gan Lot ofn aros yn Soar, felly aeth i'r bryniau i fyw. Roedd yn byw yno gyda'i ddwy ferch mewn ogof.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 19