Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 19:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ddau angel yn cyrraedd Sodom pan oedd hi'n dechrau nosi. Roedd Lot yn eistedd wrth giât y ddinas. Pan welodd Lot nhw, cododd i'w cyfarch, ac ymgrymu â'i wyneb ar lawr o'u blaenau nhw.

2. “Fy meistri,” meddai wrthyn nhw, “plîs dewch draw i'm tŷ i. Cewch aros dros nos a golchi eich traed. Wedyn bore fory cewch godi'n gynnar a mynd ymlaen ar eich taith.” Ond dyma nhw'n ei ateb, “Na. Dŷn ni am aros allan ar y sgwâr drwy'r nos.”

3. Ond dyma Lot yn dal ati i bwyso arnyn nhw, ac yn y diwedd aethon nhw gydag e i'w dŷ. Gwnaeth wledd iddyn nhw, gyda bara ffres oedd wedi ei wneud heb furum, a dyma nhw'n bwyta.

4. Cyn iddyn nhw setlo i lawr i gysgu, dyma ddynion Sodom i gyd yn cyrraedd yno ac amgylchynu'r tŷ – dynion hen ac ifanc o bob rhan o'r ddinas.

5. A dyma nhw'n galw ar Lot, “Ble mae'r dynion sydd wedi dod atat ti heno? Tyrd â nhw allan yma i ni gael rhyw gyda nhw.”

6. Ond dyma Lot yn mynd allan at y dynion, ac yn cau'r drws tu ôl iddo.

7. “Dw i'n pledio arnoch chi, ffrindiau, plîs peidiwch gwneud peth mor ddrwg.

8. Edrychwch, mae gen i ddwy ferch sydd erioed wedi cysgu hefo dyn. Beth am i mi ddod â nhw allan atoch chi. Cewch wneud beth dych chi eisiau iddyn nhw. Ond peidiwch gwneud dim i'r dynion yma – maen nhw'n westeion yn fy nghartre i.”

9. Ond dyma'r dynion yn ei ateb, “Dos o'r ffordd! Un o'r tu allan wyt ti beth bynnag. Pwy wyt ti i'n barnu ni? Cei di hi'n waeth na nhw gynnon ni!” Dyma nhw'n gwthio yn erbyn Lot, nes bron torri'r drws i lawr.

10. Ond dyma'r dynion yn y tŷ yn llwyddo i afael yn Lot a'i dynnu yn ôl i mewn a chau y drws.

11. A dyma nhw'n gwneud i'r dynion oedd y tu allan gael eu taro'n ddall – pob un ohonyn nhw, o'r ifancaf i'r hynaf. Roedden nhw'n methu dod o hyd i'r drws.

12. Gofynnodd y dynion i Lot, “Oes gen ti berthnasau eraill yma? – meibion neu ferched, meibion yng nghyfraith neu unrhyw un arall? Dos i'w nôl nhw a gadael y lle yma,

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 19