Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 15:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Rywbryd wedyn, dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Abram mewn gweledigaeth, “Paid bod ag ofn Abram. Fi ydy dy darian di. Byddi'n derbyn gwobr fawr.”

2. Ond meddai Abram, “O Feistr, ARGLWYDD, beth ydy'r pwynt os bydda i'n marw heb gael mab? Elieser o Ddamascus fydd yn cael popeth sydd gen i!”

3. Ac aeth yn ei flaen i ddweud, “Dwyt ti ddim wedi rhoi plant i mi, felly bydd caethwas sydd wedi bod gyda mi ers iddo gael ei eni yn etifeddu'r cwbl!”

4. Ond dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Na, dim hwn fydd yn cael dy eiddo di. Dy fab naturiol di dy hun fydd yn etifeddu dy eiddo di.”

5. A dyma'r ARGLWYDD yn mynd ag Abram allan, a dweud wrtho, “Edrych i fyny i'r awyr. Cyfra faint o sêr sydd yna, os fedri di! Fel yna fydd dy ddisgynyddion di – yn gwbl amhosib i'w cyfri.”

6. Credodd Abram yr ARGLWYDD, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gydag e.

7. Wedyn dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi dod â ti yma o Ur yn Babilonia. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 15