Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 14:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Bryd hynny roedd Amraffel brenin Babilonia, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Tidal brenin Goïm,

2. yn rhyfela yn erbyn Bera brenin Sodom, Birsha brenin Gomorra, Shinab brenin Adma, Shemeber brenin Seboïm, a brenin Bela (sef Soar).

3. Roedd brenhinoedd Sodom, Gomorra, Adma, Seboïm a Bela wedi ffurfio cynghrair, a dod at ei gilydd yn nyffryn Sidim (sef y Môr Marw).

4. Roedden nhw wedi bod dan reolaeth Cedorlaomer am ddeuddeg mlynedd, ond y flwyddyn wedyn dyma nhw'n gwrthryfela yn ei erbyn.

5. Flwyddyn ar ôl hynny daeth Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd ar ei ochr e, a concro y Reffaiaid yn Ashteroth-carnaïm, y Swsiaid yn Ham, yr Emiaid yn Safe-Ciriathaim,

6. yr Horiaid ym mryniau Seir yr holl ffordd i El-paran sydd wrth ymyl yr anialwch.

7. Wedyn dyma nhw yn troi yn ôl ac yn ymosod ar En-mishpat (sef Cadesh), a gorchfygu gwlad yr Amaleciaid i gyd, a hefyd yr Amoriaid oedd yn byw yn Chatsason-tamar.

8. Felly dyma frenhinoedd Sodom, Gomorra, Adma, Seboïm a Bela (sef Soar) yn mynd i ddyffryn Sidim, i ymladd

9. yn erbyn Cedorlaomer brenin Elam, a brenhinoedd Goïm, Babilonia ac Elasar – pedwar brenin yn erbyn pump.

10. Roedd Dyffryn Sidim yn llawn o byllau tar. Wrth i fyddinoedd Sodom a Gomorra ddianc oddi wrth y gelyn, dyma rai ohonyn nhw yn llithro i mewn i'r pyllau. Llwyddodd y gweddill i ddianc i'r bryniau.

11. Dyma'r byddinoedd oedd yn fuddugol yn cymryd eiddo Sodom a Gomorra, a'r bwyd oedd yno, cyn mynd i ffwrdd.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 14