Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 13:2-15 beibl.net 2015 (BNET)

2. Roedd Abram yn gyfoethog iawn – roedd ganddo lawer iawn o anifeiliaid ac arian ac aur.

3. Teithiodd yn ei flaen bob yn dipyn drwy'r Negef ac i fyny i Bethel. Aeth yn ôl i'r man lle roedd wedi gwersylla gyntaf, rhwng Bethel ac Ai.

4. Dyna ble roedd wedi codi allor i'r ARGLWYDD, ac wedi addoli'r ARGLWYDD.

5. Roedd gan Lot, oedd yn teithio gydag Abram, ddefaid a gwartheg a phebyll hefyd.

6. Doedd dim digon o borfa a dŵr iddyn nhw fyw gyda'i gilydd, am fod gan y ddau gymaint o anifeiliaid.

7. Ac roedd gweision Abram a gweision Lot yn cweryla drwy'r adeg. (Y Canaaneaid a'r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.)

8. Felly dyma Abram yn dweud wrth Lot, “Da ti, gad i ni a'n gweision beidio ffraeo! Dŷn ni'n perthyn i'r un teulu!

9. Edrych, mae'r wlad i gyd o dy flaen di. Beth am i ni wahanu. Dewis di ble rwyt ti am fynd i fyw, a gwna i fynd i'r cyfeiriad arall.”

10. Edrychodd Lot o'i gwmpas, a gwelodd fod dyffryn Iorddonen i fyny at Soar yn dir da gyda digon o ddŵr. Roedd yn ffrwythlon fel gardd yr ARGLWYDD yn Eden, neu fel gwlad yr Aifft. (Roedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio trefi Sodom a Gomorra.)

11. Felly dyma Lot yn dewis dyffryn yr Iorddonen, a mynd i gyfeiriad y dwyrain. A dyma'r teulu'n gwahanu.

12. Setlodd Abram yng ngwlad Canaan, ac aeth Lot i fyw wrth y trefi yn y dyffryn, a gwersylla wrth ymyl Sodom.

13. Roedd pobl Sodom yn ddrwg iawn, ac yn pechu'n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD.

14. Ar ôl i Lot ei adael, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Edrych o dy gwmpas i bob cyfeiriad.

15. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion, am byth.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 13