1. Felly dyma Abram yn gadael yr Aifft, gyda'i wraig a phopeth oedd ganddo a Lot. Aethon nhw yn ôl i'r Negef yn ne Canaan.
2. Roedd Abram yn gyfoethog iawn – roedd ganddo lawer iawn o anifeiliaid ac arian ac aur.
3. Teithiodd yn ei flaen bob yn dipyn drwy'r Negef ac i fyny i Bethel. Aeth yn ôl i'r man lle roedd wedi gwersylla gyntaf, rhwng Bethel ac Ai.
4. Dyna ble roedd wedi codi allor i'r ARGLWYDD, ac wedi addoli'r ARGLWYDD.