Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 12:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Dw i am i ti adael dy wlad, dy bobl a dy deulu, a mynd i ble dw i'n ei ddangos i ti.

2. Bydda i'n dy wneud di yn genedl fawr, ac yn dy fendithio di, a byddi'n enwog. Dw i eisiau i ti fod yn fendith i eraill.

3. Bydda i'n bendithio'r rhai sy'n dy fendithio di ac yn melltithio unrhyw un sy'n dy fychanu di. A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”

4. Felly dyma Abram yn mynd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. A dyma Lot yn mynd gydag e. (Roedd Abram yn 75 mlwydd oed pan adawodd Haran.)

5. Aeth Abram â'i wraig Sarai gydag e, a Lot ei nai. Aeth â'i eiddo i gyd, a'r gweithwyr roedd wedi eu cymryd ato yn Haran, a mynd i wlad Canaan. Pan gyrhaeddon nhw yno

6. dyma Abram yn teithio drwy'r wlad ac yn cyrraedd derwen More oedd yn lle addoli yn Sichem (Y Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.)

7. Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abram, ac yn dweud, “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.” A cododd Abram allor i'r ARGLWYDD oedd wedi dod ato.

8. Wedyn symudodd Abram yn ei flaen tua'r de a gwersylla yn y bryniau sydd i'r dwyrain o Bethel. Roedd Bethel i'r gorllewin iddo, ac Ai tua'r dwyrain. Cododd allor yno hefyd, ac addoli'r ARGLWYDD.

9. Wedyn teithiodd Abram yn ei flaen bob yn dipyn i gyfeiriad y Negef yn y de.

10. Roedd newyn difrifol yn y wlad. Felly dyma Abram yn mynd i lawr i'r Aifft i grwydro yno.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 12