29. Priododd y ddau frawd arall. Sarai oedd enw gwraig Abram, a Milca oedd enw gwraig Nachor (Roedd hi'n un o ferched Haran, ac enw ei chwaer oedd Isca.)
30. Roedd Sarai yn methu cael plant.
31. Dyma Tera yn gadael Ur yn Babilonia gyda'r bwriad o symud i wlad Canaan. Aeth ag Abram ei fab gydag e, hefyd Sarai ei ferch-yng-nghyfraith a Lot ei ŵyr (sef mab Haran). Ond dyma nhw'n cyrraedd Haran ac yn setlo yno.
32. Dyna lle buodd Tera farw, yn 205 oed.