Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 11:18-30 beibl.net 2015 (BNET)

18. Pan oedd Peleg yn 30 oed, cafodd ei fab Reu ei eni.

19. Buodd Peleg fyw am 209 o flynyddoedd ar ôl i Reu gael ei eni, a chafodd blant eraill.

20. Pan oedd Reu yn 32 oed, cafodd ei fab Serwg ei eni.

21. Buodd Reu fyw am 207 o flynyddoedd ar ôl i Serwg gael ei eni, a chafodd blant eraill.

22. Pan oedd Serwg yn 30 oed, cafodd ei fab Nachor ei eni.

23. Buodd Serwg fyw am 200 mlynedd ar ôl i Nachor gael ei eni, a chafodd blant eraill.

24. Pan oedd Nachor yn 29 oed, cafodd ei fab Tera ei eni.

25. Buodd Nachor fyw am 119 mlynedd ar ôl i Tera gael ei eni, a chafodd blant eraill.

26. Pan oedd Tera yn 70 oed, roedd ganddo dri mab – Abram, Nachor a Haran.

27. Dyma hanes teulu Tera:Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran. Haran oedd tad Lot.

28. Pan fuodd Haran farw, yn Ur yn Babilonia lle cafodd ei eni, roedd ei dad Tera yn dal yn fyw.

29. Priododd y ddau frawd arall. Sarai oedd enw gwraig Abram, a Milca oedd enw gwraig Nachor (Roedd hi'n un o ferched Haran, ac enw ei chwaer oedd Isca.)

30. Roedd Sarai yn methu cael plant.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 11