Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 11:1-18 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ar un adeg, un iaith oedd drwy'r byd i gyd. Roedd pawb yn defnyddio'r un geiriau.

2. Pan oedd y bobl yn symud o le i le yn y dwyrain, dyma nhw'n dod i dir gwastad yn Babilonia ac yn setlo yno.

3. Ac medden nhw, “Gadewch i ni wneud brics wedi eu tanio'n galed i'w defnyddio i adeiladu.” (Roedden nhw'n defnyddio brics yn lle cerrig, a tar yn lle morter.)

4. “Dewch,” medden nhw, “gadewch i ni adeiladu dinas fawr i ni'n hunain, gyda thŵr uchel yn estyn i fyny i'r nefoedd. Byddwn ni'n enwog, a fydd dim rhaid i ni gael ein gwasgaru drwy'r byd i gyd.”

5. A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr i edrych ar y ddinas a'r tŵr roedd y bobl yn eu hadeiladu.

6. Ac meddai, “Maen nhw wedi dechrau gwneud hyn am eu bod nhw'n un bobl sy'n siarad yr un iaith. Does dim byd yn eu rhwystro nhw rhag gwneud beth bynnag maen nhw eisiau.

7. Dewch, gadewch i ni fynd i lawr a chymysgu eu hiaith nhw, fel na fyddan nhw'n deall ei gilydd yn siarad.”

8. Felly dyma'r ARGLWYDD yn eu gwasgaru nhw drwy'r byd i gyd, a dyma nhw'n stopio adeiladu'r ddinas.

9. Roedd y ddinas yn cael ei galw yn Babel am mai dyna ble wnaeth yr ARGLWYDD gymysgu ieithoedd pobl, a'u gwasgaru drwy'r byd i gyd.

10. Dyma hanes teulu Shem:Pan oedd Shem yn gant oed, cafodd ei fab Arffacsad ei eni (Roedd hyn ddwy flynedd ar ôl y dilyw.)

11. Buodd Shem fyw am 500 mlynedd ar ôl i Arffacsad gael ei eni, a chafodd blant eraill.

12. Pan oedd Arffacsad yn 35 oed, cafodd ei fab Shelach ei eni.

13. Buodd Arffacsad fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Shelach gael ei eni, a chafodd blant eraill.

14. Pan oedd Shelach yn 30 oed, cafodd ei fab Eber ei eni.

15. Buodd Shelach fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Eber gael ei eni, a chafodd blant eraill.

16. Pan oedd Eber yn 34 oed, cafodd ei fab Peleg ei eni.

17. Buodd Eber fyw am 430 mlynedd ar ôl i Peleg gael ei eni, a chafodd blant eraill.

18. Pan oedd Peleg yn 30 oed, cafodd ei fab Reu ei eni.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 11