Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 10:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma hanes teuluoedd meibion Noa – Shem, Cham a Jaffeth. (Ar ôl y dilyw cafodd y tri ohonyn nhw blant):

2. Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Iafan, Twbal, Meshech, a Tiras.

3. Disgynyddion Gomer oedd pobl Ashcenas, Riffath, a Togarma.

4. Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Dodanîm,

5. sef pobloedd yr arfordir a'r ynysoedd. Rhannodd y rhain yn genhedloedd gwahanol gyda'u tiroedd, a phob grŵp ethnig gyda'i iaith ei hun.

6. Meibion Cham: Cwsh, Mitsraïm, Pwt, a Canaan.

7. Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha. Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan.

8. Cafodd Cwsh fab arall o'r enw Nimrod. Nimrod oedd y concwerwr cyntaf.

9. Fe oedd yr heliwr gorau yn y byd i gyd. Dyna pam mae'r hen ddywediad yn dweud, “Mae fel Nimrod, yr heliwr gorau welodd yr ARGLWYDD.”

10. Dechreuodd ei ymerodraeth gyda dinasoedd Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Babilonia.

11. Wedyn lledodd ei ymerodraeth i Asyria, ac adeiladodd ddinasoedd Ninefe, Rehoboth-ir, Cala,

12. a Resen (sydd rhwng Ninefe a dinas fawr Cala.)

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 10