Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 1:13-31 beibl.net 2015 (BNET)

13. ac roedd nos a dydd ar y trydydd diwrnod.

14. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau goleuadau yn yr awyr i wahanu'r dydd a'r nos. Byddan nhw hefyd yn arwyddion i fesur y tymhorau, y dyddiau a'r blynyddoedd.

15. Byddan nhw'n goleuo'r ddaear o'r awyr.” A dyna ddigwyddodd.

16. Gwnaeth Duw ddau olau mawr – yr haul a'r lleuad. Roedd yr un mwya disglair, sef yr haul, i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf, sef y lleuad, i reoli'r nos. Gwnaeth Duw y sêr hefyd.

17. Gosododd nhw i gyd yn yr awyr i oleuo'r ddaear,

18. i reoli dydd a nos, ac i wahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda,

19. ac roedd nos a dydd ar y pedwerydd diwrnod.

20. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau'r dyfroedd yn orlawn o bysgod a chreaduriaid byw eraill, a dw i eisiau i adar hedfan yn ôl ac ymlaen yn yr awyr uwchben y ddaear.”

21. Felly dyma Duw yn creu y creaduriaid enfawr sydd yn y môr, a'r holl bethau byw eraill sydd ynddo, a'r holl wahanol fathau o adar hefyd. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.

22. A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud, “Dw i eisiau i chi gael haid o rai bach, nes eich bod chi'n llenwi'r dŵr sydd yn y môr, a dw i eisiau llawer o adar ar y ddaear.”

23. Ac roedd nos a dydd ar y pumed diwrnod.

24. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i greaduriaid byw o bob math lenwi'r ddaear: anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, a bywyd gwyllt o bob math.” A dyna ddigwyddodd.

25. Gwnaeth Duw bob math o greaduriaid gwyllt, pob math o anifeiliaid, ac ymlusgiaid a phryfed gwahanol i fyw ar y ddaear. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.

26. Yna dwedodd Duw, “Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon ni'n hunain, i fod yn debyg i ni; i fod yn feistri sy'n gofalu am bopeth – y pysgod yn y môr, yr adar yn yr awyr, yr anifeiliaid, y ddaear gyfan a'r holl greaduriaid a phryfed sy'n byw arni.”

27. Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun.Yn ddelw ohono'i hun y creodd nhw.Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw.

28. A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw, “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr sy'n gofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar sy'n hedfan yn yr awyr, a'r holl greaduriaid sy'n byw ar y ddaear.”

29. Dwedodd Duw, “Edrychwch. Dw i wedi rhoi'r planhigion sydd â hadau a'r ffrwythau ar y coed i gyd, i fod yn fwyd i chi.

30. A dw i wedi rhoi'r holl blanhigion yn fwyd i'r bywyd gwyllt a'r adar a'r holl greaduriaid bach eraill sydd ar y ddaear – ie, pob un creadur byw.” A dyna ddigwyddodd.

31. Edrychodd Duw ar bopeth roedd wedi ei wneud, a gweld fod y cwbl yn dda iawn. Ac roedd nos a dydd ar y chweched diwrnod.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 1