8. Mae caethweision yn feistri arnon ni,a does neb yn gallu'n hachub ni o'u gafael nhw.
9. Dŷn ni'n gorfod mentro'n bywydau i nôl bwyd,am fod lladron arfog yn cuddio yng nghefn gwlad.
10. Mae newyn yn achosi i ni ddiodde o dwymyn;mae ein croen yn teimlo'n boeth fel ffwrn.
11. Mae'r gwragedd yn cael eu treisio yn Seion,a'r merched ifanc yn nhrefi Jwda.
12. Mae'r gelyn wedi crogi ein harweinwyr,a cham-drin y rhai hynaf ohonynt.
13. Mae'r dynion ifanc yn cael eu gorfodi i weithio'r maen melin,a'r bechgyn yn baglu wrth gario llwyth o goed.
14. Dydy'r arweinwyr hŷn ddim yn cyfarfod wrth giât y ddinas,ac mae'r bechgyn ifanc wedi stopio canu eu cerddoriaeth.
15. Mae pob llawenydd wedi diflannu;yn lle dawnsio dŷn ni'n galaru.
16. Mae'r dathlu wedi dod i ben.Gwae ni, dŷn ni wedi pechu!
17. Dŷn ni'n teimlo'n sâl, ac wedi colli pob hyder;mae'r sbarc wedi diflannu o'n llygaid,
18. am fod Mynydd Seion yn gorwedd yn wag;dim ond siacaliaid sydd yno'n prowla.