17. Dŷn ni'n teimlo'n sâl, ac wedi colli pob hyder;mae'r sbarc wedi diflannu o'n llygaid,
18. am fod Mynydd Seion yn gorwedd yn wag;dim ond siacaliaid sydd yno'n prowla.
19. Ond rwyt ti, ARGLWYDD, yn teyrnasu am byth;mae dy orsedd yn para ar hyd y cenedlaethau.
20. Pam wyt ti wedi anghofio amdanon ni?Pam wyt ti wedi troi cefn arnon ni mor hir?
21. Tynn ni'n ôl atat dy hun, ARGLWYDD, i ni droi nôl.Gwna ni eto fel roedden ni ers talwm.
22. Neu wyt ti wedi'n gwrthod ni'n llwyr?Wyt ti wedi digio'n lân gyda ni?