Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 5:1-17 beibl.net 2015 (BNET)

1. ARGLWYDD, cofia beth sydd wedi digwydd i ni.Edrycha arnon ni yn ein cywilydd!

2. Mae'n gwlad wedi ei rhoi yn nwylo'r gelyn,a'n cartrefi wedi eu meddiannu gan bobl estron.

3. Dŷn ni fel plant amddifad, heb dadau,ac mae ein mamau fel gwragedd gweddwon.

4. Rhaid i ni brynu dŵr i'w yfed,a thalu am y coed tân dŷn ni'n ei gasglu.

5. Dŷn ni'n cael ein gyrru fel anifeiliaid â iau ar eu gwarrau;wedi blino'n lân, ac yn cael dim gorffwys.

6. Gwnaethon gytundeb gyda'r Aifft ac Asyria,er mwyn cael digon o fwyd i fyw.

7. Roedd ein hynafiaid, sy'n farw bellach, wedi pechu;a dŷn ni'n diodde canlyniadau eu drygioni nhw.

8. Mae caethweision yn feistri arnon ni,a does neb yn gallu'n hachub ni o'u gafael nhw.

9. Dŷn ni'n gorfod mentro'n bywydau i nôl bwyd,am fod lladron arfog yn cuddio yng nghefn gwlad.

10. Mae newyn yn achosi i ni ddiodde o dwymyn;mae ein croen yn teimlo'n boeth fel ffwrn.

11. Mae'r gwragedd yn cael eu treisio yn Seion,a'r merched ifanc yn nhrefi Jwda.

12. Mae'r gelyn wedi crogi ein harweinwyr,a cham-drin y rhai hynaf ohonynt.

13. Mae'r dynion ifanc yn cael eu gorfodi i weithio'r maen melin,a'r bechgyn yn baglu wrth gario llwyth o goed.

14. Dydy'r arweinwyr hŷn ddim yn cyfarfod wrth giât y ddinas,ac mae'r bechgyn ifanc wedi stopio canu eu cerddoriaeth.

15. Mae pob llawenydd wedi diflannu;yn lle dawnsio dŷn ni'n galaru.

16. Mae'r dathlu wedi dod i ben.Gwae ni, dŷn ni wedi pechu!

17. Dŷn ni'n teimlo'n sâl, ac wedi colli pob hyder;mae'r sbarc wedi diflannu o'n llygaid,

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 5