Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 4:11-20 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dyma'r ARGLWYDD yn bwrw arnom ei lid i gyd.Tywalltodd ei ddig ffyrniga chynnau tânwnaeth losgi sylfeini Seion.

12. Doedd dim un brenin wedi dychmygu,na neb arall drwy'r byd i gyd,y gallai unrhyw elyn neu ymosodwrgoncro dinas Jerwsalem.

13. Ond dyna ddigwyddodd, am fod ei phroffwydi wedi pechua'i hoffeiriaid wedi gwrthryfela.Nhw oedd gyfrifol am ladd pobl ddiniwedyn y ddinas.

14. Maen nhw'n crwydro'r strydoedd fel pobl ddall.Does neb yn beiddio cyffwrdd eu dillad nhw,am fod y gwaed wnaethon nhw ei dywalltwedi eu gwneud nhw'n aflan.

15. Mae pobl yn gweiddi arnyn nhw, “Cadwch draw! Dych chi'n aflan!Ewch i ffwrdd! Peidiwch cyffwrdd ni!”Felly dyma nhw'n ffoi ac maen nhw'n crwydro o gwmpaso un wlad i'r llall heb gael croeso yn unman.

16. Yr ARGLWYDD ei hun wnaeth eu gyrru ar chwâl,a dydy e ddim yn gofalu amdanyn nhw ddim mwy.Does neb yn dangos parch at yr offeiriaid,a does neb yn malio am yr arweinwyr.

17. Roedd ein llygaid ni wedi blinowrth i ni wastraffu'n hamser yn edrych am help.Roedden ni'n edrych allan o'r tŵr gwylioyn disgwyl am wlad wnaeth ddim dod i'n hachub ni.

18. Roedd ein gelynion yn ein hela bob cam o'r ffordd.Doedd hi ddim yn saff i ni fynd allan i'r strydoedd hyd yn oed.Roedd y diwedd yn agos; roedd ein dyddiau wedi eu rhifo;oedd, roedd y diwedd wedi dod!

19. Daeth y gelyn ar ein holau.Roedden nhw'n gyflymach nag eryrod.Roedden nhw'n ein hela ni ar y bryniau,ac yn disgwyl i ymosod arnon ni yn yr anialwch.

20. Cafodd anadl bywyd y genedl,sef y brenin oedd wedi ei eneinio gan yr ARGLWYDD,ei ddal mewn trap ganddyn nhw.Dyma'r un oedden ni'n credu fyddai'n ein hamddiffyn,a'n galluogi i oroesi yng nghanol y cenhedloedd.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 4