Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 8:8-22 beibl.net 2015 (BNET)

8. Yna dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Gweddïwch ar yr ARGLWYDD iddo gymryd y llyffaint i ffwrdd oddi wrtho i a'r bobl. Wedyn bydda i'n gadael i'r bobl fynd, iddyn nhw aberthu i'r ARGLWYDD.”

9. A dyma Moses yn ateb y Pharo, “Iawn, cei di'r fraint o ddweud pryd wyt ti eisiau i mi weddïo. Pryd wyt ti eisiau i'r llyffaint gael eu symud o'ch tai chi, fel bod dim ar ôl ond y rhai sydd yn yr Afon Nil?”

10. A dyma fe'n ateb, “Yfory.”“Iawn,” meddai Moses, “fel rwyt ti'n dweud! Byddi'n deall wedyn fod yna neb tebyg i'r ARGLWYDD ein Duw ni.

11. Bydd y llyffaint i gyd wedi mynd, heblaw'r rhai sydd yn yr Afon Nil.”

12. Felly dyma Moses ac Aaron yn gadael y Pharo, a gweddïodd Moses ar yr ARGLWYDD am y llyffaint roedd e wedi eu hanfon ar y Pharo.

13. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud fel roedd Moses yn gofyn – dyma'r llyffaint i gyd yn marw, yn y tai, y pentrefi a'r caeau.

14. Cafodd y cwbl eu casglu'n domenni ym mhobman, nes bod y wlad yn drewi!

15. Ond yna, pan welodd y Pharo fod y broblem wedi mynd, dyma fe'n troi'n ystyfnig eto. Roedd yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

16. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth Aaron am estyn ei ffon a taro'r pridd ar lawr, iddo droi'n wybed dros wlad yr Aifft i gyd.”

17. A dyna wnaethon nhw. Dyma Aaron yn estyn ei ffon a taro'r pridd ar lawr, ac roedd gwybed ym mhobman, ar bobl ac anifeiliaid. Trodd y pridd ar lawr yn wybed ym mhobman drwy wlad yr Aifft i gyd.

18. Ceisiodd y dewiniaid wneud yr un peth gyda'i hud a lledrith, ond roedden nhw'n methu. Roedd gwybed ym mhobman, ar bobl ac anifeiliaid!

19. “Duw sydd tu ôl i hyn!” meddai'r dewiniaid. Ond roedd y Pharo yn aros yr un mor ystyfnig, ac yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

20. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Coda'n fore, a sefyll o flaen y Pharo pan fydd yn mynd i lawr at yr afon. Dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!

21. Os byddi di'n gwrthod gadael i'm pobl fynd, dw i'n mynd i anfon heidiau o bryfed i dy boeni di, dy swyddogion a dy bobl. Bydd eich tai yn llawn pryfed, byddan nhw hyd yn oed ar lawr ym mhobman.

22. Ond bydda i'n delio'n wahanol gyda Gosen, lle mae fy mhobl Israel yn byw; fydd yna ddim pryfed yno. Byddi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, a'm bod i yma yng nghanol gwlad yr Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 8