Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 8:24-32 beibl.net 2015 (BNET)

24. A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Daeth haid trwchus o bryfed i mewn i balas y Pharo, tai ei swyddogion, a thrwy wlad yr Aifft i gyd. Roedd y pryfed yn difetha'r wlad.

25. A dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Iawn, ewch i aberthu i'ch Duw, ond o fewn ffiniau'r wlad yma.”

26. Ond dyma Moses yn ateb, “Na, fyddai hynny ddim yn beth call i'w wneud. Bydden ni'n tramgwyddo pobl yr Aifft gyda'r aberthau dŷn ni'n eu cyflwyno i'r ARGLWYDD ein Duw. Os byddan nhw'n ein gweld ni'n aberthu, byddan nhw'n dechrau taflu cerrig aton ni i'n lladd ni.

27. Rhaid i ni deithio am dri diwrnod i'r anialwch, ac aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw yno. Dyna mae e'n ddweud wrthon ni.”

28. Felly dyma'r Pharo'n dweud, “Iawn, gwna i adael i chi fynd i aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn yr anialwch. Ond rhaid i chi beidio mynd yn rhy bell. Nawr, gweddïwch drosto i.”

29. A dyma Moses yn dweud, “Yn syth ar ôl i mi fynd allan, bydda i'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ac yn gofyn iddo anfon y pryfed i ffwrdd yfory – oddi wrthot ti, dy swyddogion a dy bobl. Ond paid ceisio'n twyllo ni eto, a gwrthod gadael i'r bobl fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.”

30. Felly dyma Moses yn gadael y Pharo, ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD.

31. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud fel roedd Moses yn gofyn – dyma fe'n gyrru'r pryfed i ffwrdd oddi wrth y Pharo, ei swyddogion a'i bobl. Doedd dim un ar ôl!

32. Ond dyma'r Pharo'n troi'n ystyfnig unwaith eto, ac yn gwrthod gadael i'r bobl fynd.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 8