Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 8:19-30 beibl.net 2015 (BNET)

19. “Duw sydd tu ôl i hyn!” meddai'r dewiniaid. Ond roedd y Pharo yn aros yr un mor ystyfnig, ac yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

20. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Coda'n fore, a sefyll o flaen y Pharo pan fydd yn mynd i lawr at yr afon. Dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!

21. Os byddi di'n gwrthod gadael i'm pobl fynd, dw i'n mynd i anfon heidiau o bryfed i dy boeni di, dy swyddogion a dy bobl. Bydd eich tai yn llawn pryfed, byddan nhw hyd yn oed ar lawr ym mhobman.

22. Ond bydda i'n delio'n wahanol gyda Gosen, lle mae fy mhobl Israel yn byw; fydd yna ddim pryfed yno. Byddi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, a'm bod i yma yng nghanol gwlad yr Aifft.

23. Bydda i'n gwahaniaethu rhwng fy mhobl i a dy bobl di. Bydd hyn yn digwydd yfory.”’”

24. A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Daeth haid trwchus o bryfed i mewn i balas y Pharo, tai ei swyddogion, a thrwy wlad yr Aifft i gyd. Roedd y pryfed yn difetha'r wlad.

25. A dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Iawn, ewch i aberthu i'ch Duw, ond o fewn ffiniau'r wlad yma.”

26. Ond dyma Moses yn ateb, “Na, fyddai hynny ddim yn beth call i'w wneud. Bydden ni'n tramgwyddo pobl yr Aifft gyda'r aberthau dŷn ni'n eu cyflwyno i'r ARGLWYDD ein Duw. Os byddan nhw'n ein gweld ni'n aberthu, byddan nhw'n dechrau taflu cerrig aton ni i'n lladd ni.

27. Rhaid i ni deithio am dri diwrnod i'r anialwch, ac aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw yno. Dyna mae e'n ddweud wrthon ni.”

28. Felly dyma'r Pharo'n dweud, “Iawn, gwna i adael i chi fynd i aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn yr anialwch. Ond rhaid i chi beidio mynd yn rhy bell. Nawr, gweddïwch drosto i.”

29. A dyma Moses yn dweud, “Yn syth ar ôl i mi fynd allan, bydda i'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ac yn gofyn iddo anfon y pryfed i ffwrdd yfory – oddi wrthot ti, dy swyddogion a dy bobl. Ond paid ceisio'n twyllo ni eto, a gwrthod gadael i'r bobl fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.”

30. Felly dyma Moses yn gadael y Pharo, ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 8