Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 8:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos at y Pharo a dweud wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!

2. Os byddi di'n gwrthod gadael iddyn nhw fynd, bydda i'n anfon pla o lyffaint drwy'r wlad.

3. Bydd yr Afon Nil yn llawn ohonyn nhw. A byddan nhw'n dod i mewn i'r palas, i dy ystafell wely di, a hyd yn oed ar dy wely! Byddan nhw'n mynd i mewn i dai pawb. Byddan nhw ym mhob ffwrn a phowlen a phadell!

4. Byddan nhw dros bawb a phopeth! – drosot ti, dy bobl a dy swyddogion.”’”

5. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth Aaron am estyn ei ffon dros yr afonydd, y camlesi a'r corsydd, a gwneud i lyffaint ddod allan dros wlad yr Aifft i gyd.”

6. Dyma Aaron yn gwneud hynny, a daeth llyffaint allan dros wlad yr Aifft i gyd.

7. Ond yna dyma'r dewiniaid yn gwneud yr un peth gyda'i hud a lledrith – roedden nhw hefyd yn gwneud i lyffaint ddod dros y wlad.

8. Yna dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Gweddïwch ar yr ARGLWYDD iddo gymryd y llyffaint i ffwrdd oddi wrtho i a'r bobl. Wedyn bydda i'n gadael i'r bobl fynd, iddyn nhw aberthu i'r ARGLWYDD.”

9. A dyma Moses yn ateb y Pharo, “Iawn, cei di'r fraint o ddweud pryd wyt ti eisiau i mi weddïo. Pryd wyt ti eisiau i'r llyffaint gael eu symud o'ch tai chi, fel bod dim ar ôl ond y rhai sydd yn yr Afon Nil?”

10. A dyma fe'n ateb, “Yfory.”“Iawn,” meddai Moses, “fel rwyt ti'n dweud! Byddi'n deall wedyn fod yna neb tebyg i'r ARGLWYDD ein Duw ni.

11. Bydd y llyffaint i gyd wedi mynd, heblaw'r rhai sydd yn yr Afon Nil.”

12. Felly dyma Moses ac Aaron yn gadael y Pharo, a gweddïodd Moses ar yr ARGLWYDD am y llyffaint roedd e wedi eu hanfon ar y Pharo.

13. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud fel roedd Moses yn gofyn – dyma'r llyffaint i gyd yn marw, yn y tai, y pentrefi a'r caeau.

14. Cafodd y cwbl eu casglu'n domenni ym mhobman, nes bod y wlad yn drewi!

15. Ond yna, pan welodd y Pharo fod y broblem wedi mynd, dyma fe'n troi'n ystyfnig eto. Roedd yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 8