Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 5:15-23 beibl.net 2015 (BNET)

15. Felly dyma'r fformyn yn mynd at y Pharo, a pledio arno, “Pam wyt ti'n trin dy weision fel yma?

16. Dŷn ni'n cael dim gwellt, ac eto mae disgwyl i ni wneud briciau! Ni sy'n cael ein curo ond ar y meistri gwaith mae'r bai.”

17. Ond dyma'r Pharo yn dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi bod yn slacio! Dych chi'n ddiog! Dyna pam dych chi'n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.’

18. Felly ewch, yn ôl i'ch gwaith! Fydd dim gwellt yn cael ei roi i chi, ond rhaid i chi gynhyrchu'r un faint o friciau!”

19. Roedd fformyn pobl Israel yn gweld eu bod nhw mewn trwbwl pan ddywedwyd wrthyn nhw, “Rhaid i chi gynhyrchu'r un faint o friciau ac o'r blaen.”

20. Wrth iddyn nhw adael y Pharo, roedd Moses ac Aaron yno'n disgwyl amdanyn nhw.

21. A dyma'r fformyn yn dweud wrthyn nhw, “Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn eich barnu chi am droi y Pharo a'i swyddogion yn ein herbyn ni. Dŷn ni'n drewi yn eu golwg nhw! Dych chi wedi'n rhoi ni mewn sefyllfa lle byddan nhw'n ein lladd ni!”

22. Dyma Moses yn mynd yn ôl at yr ARGLWYDD, a dweud, “O! Feistr, pam ti'n trin dy bobl fel yma? Pam yn y byd wnest ti fy anfon i atyn nhw?

23. O'r eiliad es i i siarad â'r Pharo ar dy ran di, mae e wedi achosi trwbwl i'r bobl yma, a dwyt ti wedi gwneud dim byd i'w hachub nhw!”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 5