11. Rhaid i chi'ch hunain fynd allan i chwilio am wellt. A rhaid i chi gynhyrchu'r un nifer o friciau ac o'r blaen.’”
12. Felly dyma'r bobl yn mynd allan i wlad yr Aifft i bob cyfeiriad, i gasglu bonion gwellt.
13. Roedd y meistri gwaith yn rhoi pwysau ofnadwy arnyn nhw, “Rhaid i chi wneud yr un faint o waith bob dydd ac o'r blaen, pan oedden ni'n rhoi gwellt i chi!”
14. Roedd yr Israeliaid oedd wedi cael eu penodi'n fformyn gan y meistri gwaith yn cael eu curo am beidio cynhyrchu'r cwota llawn o friciau fel o'r blaen.
15. Felly dyma'r fformyn yn mynd at y Pharo, a pledio arno, “Pam wyt ti'n trin dy weision fel yma?
16. Dŷn ni'n cael dim gwellt, ac eto mae disgwyl i ni wneud briciau! Ni sy'n cael ein curo ond ar y meistri gwaith mae'r bai.”
17. Ond dyma'r Pharo yn dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi bod yn slacio! Dych chi'n ddiog! Dyna pam dych chi'n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.’
18. Felly ewch, yn ôl i'ch gwaith! Fydd dim gwellt yn cael ei roi i chi, ond rhaid i chi gynhyrchu'r un faint o friciau!”
19. Roedd fformyn pobl Israel yn gweld eu bod nhw mewn trwbwl pan ddywedwyd wrthyn nhw, “Rhaid i chi gynhyrchu'r un faint o friciau ac o'r blaen.”
20. Wrth iddyn nhw adael y Pharo, roedd Moses ac Aaron yno'n disgwyl amdanyn nhw.
21. A dyma'r fformyn yn dweud wrthyn nhw, “Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn eich barnu chi am droi y Pharo a'i swyddogion yn ein herbyn ni. Dŷn ni'n drewi yn eu golwg nhw! Dych chi wedi'n rhoi ni mewn sefyllfa lle byddan nhw'n ein lladd ni!”