Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 4:4-13 beibl.net 2015 (BNET)

4. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Estyn dy law a gafael ynddi wrth ei chynffon.” A dyma Moses yn estyn ei law a gafael ynddi, a dyma hi'n troi yn ôl yn ffon yn ei law.

5. “Gwna di hyn, a byddan nhw'n credu wedyn fod yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid – Duw Abraham, Isaac a Jacob – wedi ymddangos i ti.”

6. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Rho dy law i mewn yn dy fantell.” Felly dyma fe'n rhoi ei law yn ei fantell. Ond pan dynnodd hi allan, roedd brech fel gwahanglwyf drosti, roedd yn wyn fel yr eira!

7. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud eto, “Rho dy law yn ôl i mewn yn dy fantell.” Felly dyma Moses yn rhoi ei law yn ôl yn ei fantell, a pan dynnodd hi allan y tro yma, roedd hi'n iach eto, fel gweddill ei groen!

8. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Os byddan nhw'n gwrthod dy gredu di pan welan nhw'r arwydd cyntaf, falle y gwnân nhw gredu'r ail arwydd.

9. Os byddan nhw'n dal i wrthod credu, yna cymer ddŵr o'r afon Nil a'i dywallt ar y tir sych. Bydd y dŵr yn troi'n waed ar y tir sych.”

10. Ond wedyn dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Plîs, Meistr, dw i ddim yn siaradwr da iawn – dw i erioed wedi bod, a fydda i byth chwaith. Mae gen i atal dweud, a dw i'n ei chael hi'n anodd i siarad.”

11. Ond dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Pwy roddodd geg i ddyn yn y lle cyntaf? Pwy sy'n gwneud rhai yn fud, eraill yn fyddar, rhai yn gweld ac eraill yn ddall? Onid fi, yr ARGLWYDD?

12. Felly dos; bydda i'n dy helpu di i siarad, ac yn dy ddysgu di beth i'w ddweud.”

13. Ond meddai Moses, “O, plîs, Meistr, anfon rhywun arall!”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 4