Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 4:12-28 beibl.net 2015 (BNET)

12. Felly dos; bydda i'n dy helpu di i siarad, ac yn dy ddysgu di beth i'w ddweud.”

13. Ond meddai Moses, “O, plîs, Meistr, anfon rhywun arall!”

14. Erbyn hyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Moses, “Iawn! Beth am dy frawd Aaron, y Lefiad? Dw i'n gwybod ei fod e'n gallu siarad yn dda. Mae e ar ei ffordd i dy gyfarfod di. Bydd e wrth ei fodd pan fydd e'n dy weld di!

15. Byddi di'n dweud wrtho beth i'w ddweud. Bydda i'n dy helpu di a'i helpu fe i siarad, ac yn dangos i chi beth i'w wneud.

16. Bydd e'n siarad ar dy ran di gyda'r bobl. Bydd e'n siarad ar dy ran di, a byddi di fel ‛duw‛ yn dweud wrtho beth i'w ddweud.

17. A dos â dy ffon gyda ti – byddi'n gwneud arwyddion gwyrthiol gyda hi.”

18. Felly dyma Moses yn mynd yn ôl adre at Jethro, ei dad-yng-nghyfraith, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd yn ôl at fy mhobl yn yr Aifft, i weld os ydyn nhw'n dal yn fyw.”A dyma Jethro'n dweud wrtho, “Dos, a bendith arnat ti!”

19. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses yn Midian, “Dos yn ôl i'r Aifft. Mae'r dynion oedd am dy ladd di wedi marw.”

20. Felly dyma Moses yn mynd gyda'i wraig a'i feibion – ei rhoi nhw ar gefn mul, a dechrau yn ôl am yr Aifft. Ac aeth â ffon Duw gydag e yn ei law.

21. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Pan ei di yn ôl i'r Aifft, gwna'n siŵr dy fod yn gwneud yr holl wyrthiau rhyfeddol dw i wedi rhoi'r gallu i ti eu gwneud o flaen y Pharo. Ond bydda i'n ei wneud e'n ystyfnig, a bydd e'n gwrthod gadael i'r bobl fynd.

22. Felly dywed di wrth y Pharo, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fy mab i ydy Israel, fy mab hynaf i,

23. a dw i wedi dweud wrthot ti am adael iddo fynd, iddo gael fy addoli i. Gwylia dy hun os byddi di'n gwrthod! Bydda i'n lladd dy fab hynaf di!”’”

24. Ar y ffordd, roedd Moses a'i deulu wedi aros i letya dros nos. A dyma'r ARGLWYDD yn dod ato, ac roedd yn mynd i'w ladd.

25. Ond dyma Seffora yn cymryd cyllell finiog, torri'r blaengroen oddi ar bidyn ei mab. Yna cyffwrdd man preifat Moses gydag e, a dweud, “Rwyt ti wir yn briodfab i mi trwy waed.”

26. A dyma'r ARGLWYDD yn gadael llonydd iddo. (Wrth ddweud “priodfab trwy waed” roedd Seffora'n cyfeirio at ddefod enwaediad.)

27. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Dos i'r anialwch i gyfarfod Moses.” Felly dyma fe'n mynd ac yn cyfarfod Moses wrth fynydd Duw, a'i gyfarch gyda chusan.

28. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i'w ddweud, ac am yr arwyddion gwyrthiol roedd i'w gwneud.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 4