8. Wedyn dyma nhw'n gwneud y darn sy'n mynd dros y frest, wedi ei gynllunio'n gelfydd gan artist. Ei wneud yr un fath â'r effod – allan o liain main wedi ei frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch.
9. Roedd wedi ei blygu drosodd i wneud poced 22 centimetr sgwâr.
10. Yna gosod pedair rhes o gerrig arno: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl;
11. yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt;
12. y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst;
13. a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis – pob un wedi ei osod mewn gwaith ffiligri o aur.
14. Roedd pob carreg yn cynrychioli un o feibion Israel – un deg dau enw wedi eu crafu arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud.
15. A dyma nhw'n gwneud cadwynau o aur pur wedi ei blethu i'w gosod ar y darn sy'n mynd dros y frest.
16. Yna gwneud dwy ffiligri o aur a dwy ddolen aur, a cysylltu'r dolenni i ddwy gornel uchaf y darn sy'n mynd dros y frest.
17. Wedyn cysylltu'r ddwy gadwyn aur i'r dolenni hynny,
18. a chysylltu pen arall y cadwyni i'r ddwy ffiligri, a rhoi'r rheiny ar strapiau ysgwydd yr effod, ar y tu blaen.
19. Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a'i cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy'n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod.
20. Yna gwneud dwy ddolen aur arall eto, a'u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod wrth ymyl y gwnïad sydd uwch ben strap yr effod.
21. Wedyn clymu dolenni'r darn dros y frest i ddolenni'r effod gydag edau las, i'w gadw uwch ben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd. Roedd hyn i gyd yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
22. Gwnaeth gwehydd y fantell sy'n mynd gyda'r effod i gyd yn las.
23. Roedd lle i'r pen fynd trwyddo yn y canol, gyda hem o'i gwmpas, wedi ei bwytho fel coler i'w atal rhag rhwygo.
24. Wedyn roedd pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi eu gwneud o edau las, porffor a coch, a lliain main.
25. Ac yna gwneud clychau o aur pur a'i gosod nhw rhwng y pomgranadau ar ymylon y fantell –
26. clychau a ffrwythau bob yn ail o gwmpas y fantell fyddai'n cael ei gwisgo i wasanaethu, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
27. Wedyn dyma nhw'n gwneud crysau o liain main i Aaron a'i feibion.
28. Hefyd twrban a penwisgoedd o liain main, a dillad isaf o'r lliain main gorau.