3. Dyma'r crefftwyr yn gwneud dalen denau, denau o aur a'i dorri yn stribedi main a'i wnïo i'r patrwm gyda'r edau las, porffor a coch; y cwbl wedi ei ddylunio'n gelfydd.
4. Dyma nhw'n gwneud dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi eu cysylltu i'r corneli, i'w ddal gyda'i gilydd.
5. Ac roedd strap cywrain wedi ei blethu i fod yn un darn gyda'r effod. Roedd wedi ei wneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
6. Yna dyma nhw'n gosod y cerrig onics mewn gwaith ffiligri o aur, a crafu enwau meibion Israel arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud.
7. Yna eu rhoi nhw ar strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
8. Wedyn dyma nhw'n gwneud y darn sy'n mynd dros y frest, wedi ei gynllunio'n gelfydd gan artist. Ei wneud yr un fath â'r effod – allan o liain main wedi ei frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch.
9. Roedd wedi ei blygu drosodd i wneud poced 22 centimetr sgwâr.
10. Yna gosod pedair rhes o gerrig arno: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl;
11. yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt;
12. y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst;
13. a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis – pob un wedi ei osod mewn gwaith ffiligri o aur.
14. Roedd pob carreg yn cynrychioli un o feibion Israel – un deg dau enw wedi eu crafu arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud.
15. A dyma nhw'n gwneud cadwynau o aur pur wedi ei blethu i'w gosod ar y darn sy'n mynd dros y frest.
16. Yna gwneud dwy ffiligri o aur a dwy ddolen aur, a cysylltu'r dolenni i ddwy gornel uchaf y darn sy'n mynd dros y frest.