Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 39:25-43 beibl.net 2015 (BNET)

25. Ac yna gwneud clychau o aur pur a'i gosod nhw rhwng y pomgranadau ar ymylon y fantell –

26. clychau a ffrwythau bob yn ail o gwmpas y fantell fyddai'n cael ei gwisgo i wasanaethu, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

27. Wedyn dyma nhw'n gwneud crysau o liain main i Aaron a'i feibion.

28. Hefyd twrban a penwisgoedd o liain main, a dillad isaf o'r lliain main gorau.

29. Ac roedd y sash i'w wneud o'r lliain main gorau hefyd, wedi ei frodio gydag edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

30. Wedyn gwneud medaliwn o aur pur, y symbol ei fod wedi ei gysegru i waith Duw, a crafu arno (fel ar sêl) y geiriau: ‛Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD‛

31. Wedyn ei glymu ar du blaen y twrban gydag edau las, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

32. Felly roedd yr holl waith ar y Tabernacl (sef Pabell Presenoldeb Duw) wedi ei orffen. Roedd pobl Israel wedi gwneud popeth yn union fel dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses.

33. Felly dyma nhw'n dod â'r Tabernacl at Moses, sef y babell ei hun a'r darnau eraill i gyd: y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a'r socedi.

34. Y gorchudd o grwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, y gorchudd o grwyn môr-fuchod, a llen y sgrîn.

35. Yna Arch y dystiolaeth, y polion i'w chario, a'i chaead (sef caead y cymodi),

36. y bwrdd a'i holl gelfi, a'r bara cysegredig.

37. Y menora gyda'i lampau mewn trefn, yr offer oedd gyda hi, a'r olew i'w goleuo.

38. Yr Allor Aur, yr olew eneinio, yr arogldarth persawrus, y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell.

39. Yr Allor Bres a'i grât o bres, y polion i'w chario, a'i hoffer i gyd. Y ddisgyl fawr a'i stand.

40. Y llenni ar gyfer y wal o gwmpas yr iard, y polion i'w dal a'r socedi, y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r iard, y rhaffau a'r pegiau, a'r holl offer oedd ei angen ar gyfer y gwaith yn y Tabernacl, sef Pabell Presenoldeb Duw.

41. Hefyd gwisgoedd y rhai fyddai'n gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi eu brodio'n hardd), a gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a'i feibion fyddai hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid.

42. Roedd pobl Israel wedi gwneud y gwaith i gyd yn union fel dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses.

43. Yna dyma Moses yn archwilio'r cwbl, ac yn wir, roedd y cwbl wedi ei wneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. A dyma Moses yn eu bendithio nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 39