1. Dyma nhw'n gwneud gwisgoedd i'r rhai fyddai'n gwasanaethu yn y cysegr – gwisgoedd wedi eu brodio'n hardd gydag edau las, porffor a coch. Gwisgoedd cysegredig i Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
2. Roedd yr effod wedi ei gwneud o'r lliain main gorau, wedi ei frodio gydag aur, glas, porffor a coch.
3. Dyma'r crefftwyr yn gwneud dalen denau, denau o aur a'i dorri yn stribedi main a'i wnïo i'r patrwm gyda'r edau las, porffor a coch; y cwbl wedi ei ddylunio'n gelfydd.
4. Dyma nhw'n gwneud dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi eu cysylltu i'r corneli, i'w ddal gyda'i gilydd.
5. Ac roedd strap cywrain wedi ei blethu i fod yn un darn gyda'r effod. Roedd wedi ei wneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
6. Yna dyma nhw'n gosod y cerrig onics mewn gwaith ffiligri o aur, a crafu enwau meibion Israel arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud.