Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 38:2-24 beibl.net 2015 (BNET)

2. Gwnaeth gyrn ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna ei gorchuddio gyda pres.

3. Pres ddefnyddiodd i wneud yr offer i gyd hefyd – y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a'r padellau tân.

4. Yna gwnaeth y gratin, sef rhwyll wifrog o bres o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr.

5. A gwnaeth bedair cylch i'w gosod ar bedair cornel y gratin, i roi'r polion trwyddyn nhw.

6. Yna gwnaeth y polion allan o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gyda pres.

7. Yna gwthiodd y polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r allor, i'w chario hi. Roedd yr allor yn wag y tu mewn, wedi ei gwneud gyda planciau o bren.

8. Yna gwnaeth y ddysgl fawr bres a'i stand bres allan o ddrychau y gwragedd oedd yn gwasanaethu wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.

9. Yna gwnaeth yr iard. Roedd yr ochr ddeheuol yn bedwar deg pedwar metr o hyd, a'r llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau.

10. Roedd yna ddau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni.

11. A'r un fath ar yr ochr ogleddol.

12. Ar ochr y gorllewin, dau ddeg dau metr o lenni, gyda deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres, gyda'r bachau a'r ffyn arian.

13-15. Ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât.

16. Roedd y llenni o gwmpas yr iard i gyd wedi eu gwneud o'r lliain main gorau.

17. Y socedi yn bres. Y bachau a'r ffyn yn arian. Top y polion wedi eu gorchuddio gydag arian, a rhimyn o arian yn rhedeg o gwmpas y polion.

18. Roedd y sgrîn o flaen y fynedfa yn naw metr o hyd – llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau ac wedi eu brodio gydag edau las, porffor a coch. Fel llenni'r iard ei hun, roedden nhw'n ddau pwynt dau metr o uchder,

19. ac yn cael eu dal ar bedwar polyn mewn pedwar soced bres. Roedd y bachau a'r ffyn yn arian, ac roedd top y polion wedi eu gorchuddio gydag arian.

20. Roedd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i chwmpas wedi eu gwneud o bres.

21. Dyma restr lawn o'r hyn gafodd ei ddefnyddio i wneud Tabernacl y Dystiolaeth. Moses oedd wedi gorchymyn cofnodi'r cwbl; a'r Lefiaid, dan arweiniad Ithamar, mab Aaron yr offeiriad, wnaeth y gwaith.

22. Gwnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda, bopeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

23. Ac roedd Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan yn ei helpu. Roedd Aholïab yn grefftwr, yn ddyluniwr, ac yn brodio lliain main gydag edau las, porffor a coch.

24. Aur: 1,000 cilogram – dyma'r holl aur gafodd ei ddefnyddio i wneud popeth yn y cysegr (Yr aur oedd wedi ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD)

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 38