Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 38:16-29 beibl.net 2015 (BNET)

16. Roedd y llenni o gwmpas yr iard i gyd wedi eu gwneud o'r lliain main gorau.

17. Y socedi yn bres. Y bachau a'r ffyn yn arian. Top y polion wedi eu gorchuddio gydag arian, a rhimyn o arian yn rhedeg o gwmpas y polion.

18. Roedd y sgrîn o flaen y fynedfa yn naw metr o hyd – llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau ac wedi eu brodio gydag edau las, porffor a coch. Fel llenni'r iard ei hun, roedden nhw'n ddau pwynt dau metr o uchder,

19. ac yn cael eu dal ar bedwar polyn mewn pedwar soced bres. Roedd y bachau a'r ffyn yn arian, ac roedd top y polion wedi eu gorchuddio gydag arian.

20. Roedd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i chwmpas wedi eu gwneud o bres.

21. Dyma restr lawn o'r hyn gafodd ei ddefnyddio i wneud Tabernacl y Dystiolaeth. Moses oedd wedi gorchymyn cofnodi'r cwbl; a'r Lefiaid, dan arweiniad Ithamar, mab Aaron yr offeiriad, wnaeth y gwaith.

22. Gwnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda, bopeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

23. Ac roedd Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan yn ei helpu. Roedd Aholïab yn grefftwr, yn ddyluniwr, ac yn brodio lliain main gydag edau las, porffor a coch.

24. Aur: 1,000 cilogram – dyma'r holl aur gafodd ei ddefnyddio i wneud popeth yn y cysegr (Yr aur oedd wedi ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD)

25. Arian: bron 3,500 cilogram – dyma'r arian gafodd ei gyfrannu gan y bobl.

26. Roedd hyn yn hanner sicl (bron yn chwe gram o arian) gan bawb dros ugain oed gafodd ei gyfrif – sef 603,550 o ddynion.

27. Cafodd 3,300 cilogram o'r arian ei ddefnyddio i wneud y socedi i bolion y cysegr, a'r socedi i'r llen arbennig – cant o socedi yn dri deg tri cilogram yr un.

28. Yna defnyddiodd y gweddill o'r arian i wneud y ffyn a'r bachau i ddal y llenni, ac i orchuddio top y polion.

29. Pres: bron 2,500 cilogram – (sef y pres gafodd ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD)

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 38