13. Yna gwnaeth bedwar cylch aur, a'i gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau
14. wrth ymyl y croeslath. Roedd y cylchoedd ar gyfer rhoi'r polion trwyddyn nhw i gario'r bwrdd.
15. Yna gwnaeth y polion o goed acasia a'u gorchuddio nhw gydag aur.
16. Yna gwnaeth y llestri oedd ar y bwrdd allan o aur pur – y platiau, pedyll, jygiau a powlenni, i dywallt yr offrymau o ddiod.
17. Yna dyma fe'n gwneud y menora (sef y stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wedi ei guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw.
18. Roedd chwe cangen yn ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr.
19. Roedd tair cwpan siâp blodyn almon ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a petalau.
20. Ac ar brif goes y menora, pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau.
21. Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd.
22. Roedd y cwbl wedi ei wneud o un darn o aur pur wedi ei guro – gwaith morthwyl.
23. Yna gwnaeth ei saith lamp, ei gefeiliau a'i phadellau o aur pur.
24. Defnyddiodd 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a'r offer oedd gyda hi i gyd.
25. Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi arogldarth. Gwnaeth hi o goed acasia, yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Roedd y cyrn arni yn un darn gyda'r allor ei hun.
26. Yna gorchuddiodd hi i gyd gyda haen o aur pur – y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno.
27. Roddodd ddau gylch aur ar y ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r allor.
28. Yna gwnaeth y polion o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gydag aur.
29. Wedyn gwnaeth yr olew eneinio cysegredig a'r arogldarth persawrus, wedi ei wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.