1. Yna dyma Betsalel yn gwneud yr Arch allan o goed acasia. Roedd hi'n 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder.
2. Gorchuddiodd hi gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno.
3. Yna gwneud pedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar draed y gist, dwy bob ochr.
4. Yna gwneud polion o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur,
5. a rhoi'r polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, i'w defnyddio i'w chario hi.
6. Wedyn dyma fe'n gwneud caead o aur pur i'r Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led.
7. Yna gwneud dau geriwb o aur wedi ei guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead,
8. yn un darn gyda'r caead ei hun.
9. Roedd adenydd y ceriwbiaid ar led yn cysgodi dros gaead yr Arch. Roedd y ceriwbiaid yn wynebu ei gilydd ac yn edrych i lawr ar y caead.
10. Wedyn dyma fe'n gwneud y bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder.
11. Gorchuddiodd e gydag aur pur, a gosod border aur o'i gwmpas i'w addurno.
12. Yna gwneud croeslath 75 milimetr o drwch o'i gwmpas – hwnnw hefyd wedi ei addurno yr un fath â'r border.
13. Yna gwnaeth bedwar cylch aur, a'i gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau
14. wrth ymyl y croeslath. Roedd y cylchoedd ar gyfer rhoi'r polion trwyddyn nhw i gario'r bwrdd.
15. Yna gwnaeth y polion o goed acasia a'u gorchuddio nhw gydag aur.
16. Yna gwnaeth y llestri oedd ar y bwrdd allan o aur pur – y platiau, pedyll, jygiau a powlenni, i dywallt yr offrymau o ddiod.