Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 35:3-23 beibl.net 2015 (BNET)

3. Peidiwch hyd yn oed cynnau tân yn eich cartrefi ar y Saboth!”

4. Wedyn dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel i gyd, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn.

5. ‘Dylai pawb sy'n awyddus i gyfrannu ddod â rhoddion i'r ARGLWYDD: aur, arian, pres,

6. edau las, porffor, a coch, lliain main drud, blew gafr,

7. crwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia,

8. olew i'r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus,

9. onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest.

10. Mae'r crefftwyr yn eich plith chi i ddod a gwneud popeth mae'r ARGLWYDD wedi ei orchymyn:

11. Y Tabernacl, gyda'r babell a'i gorchudd, y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a'r socedi.

12. Yr Arch a'i pholion, y caead drosti, a'r sgrîn sy'n ei chuddio.

13. Y bwrdd, gyda'i bolion a'i lestri, i osod y bara cysegredig arno.

14. Y menora sy'n rhoi golau, gyda'i hoffer i gyd, y lampau a'r olew.

15. Allor yr arogldarth gyda'i pholion, yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus.Y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r Tabernacl.

16. Yr allor ar gyfer yr offrymau sydd i'w llosgi, gyda'r gratin bres sydd arni, y polion, a'r offer sy'n mynd gyda hi i gyd.Y ddysgl fawr gyda'i stand.

17. Llenni'r iard, y polion a'r socedi, a'r sgrîn sydd o flaen y fynedfa i'r iard.

18. Pegiau a rhaffau'r Tabernacl a'r iard.

19. Hefyd gwisgoedd y rhai fydd yn gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi eu brodio'n hardd), a gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a'i feibion fyddai hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid.’”

20. Yna dyma bobl Israel i gyd yn mynd i ffwrdd.

21. Ond daeth rhai, oedd wedi eu sbarduno, ac yn awyddus i gyfrannu, yn ôl a cyflwyno eu rhoddion i'r ARGLWYDD – rhoddion tuag at godi Pabell presenoldeb Duw, cynnal y gwasanaeth ynddi, a tuag at y gwisgoedd cysegredig.

22. Dyma pawb oedd yn awyddus i roi yn dod – dynion a merched. A dyma nhw'n cyfrannu tlysau aur o bob math – broetshis, clustdlysau, modrwyau a breichledau. Roedd pawb yn dod ac yn cyflwyno'r aur yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.

23. Eraill yn dod ag edau las, porffor, neu goch, lliain main drud, blew gafr, crwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, neu grwyn môr-fuchod.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 35